Cwpan y Byd 2026: Pwy yw gwrthwynebwyr Cymru?

Fe gollodd Cymru yn erbyn Gwlad Belg y tro diwethaf i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd yn 2022
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru bellach yn gwybod pa wledydd fyddan nhw yn eu hwynebu yn ystod ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.
Gwlad Belg, Gogledd Macedonia, Kazakhstan a Liechtenstein fydd eu gwrthwynebwyr yng ngrŵp J, ac mae'r rheolwr Craig Bellamy yn dweud ei fod yn "hapus" gyda'r enwau ddaeth o'r het.
Fe fydd y rowndiau terfynol yn cael eu cynnal yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico ymhen dwy flynedd, ac fe fydd ymgais Cymru i gyrraedd y rowndiau terfynol am yr eildro yn olynol yn dechrau fis Mawrth.
Bydd enillwyr y grŵp yn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd, gyda'r tîm yn yr ail safle yn mynd i'r gemau ail gyfle.
Hyd yn oed os na fydd Cymru yn gorffen yn y ddau safle uchaf, mae ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd wedi cynnig llwybr arall i'r gemau ail gyfle.
Ond faint ydych chi'n ei wybod am wrthwynebwyr Cymru?
Gwlad Belg
Mae'r prif ddetholion yn wrthwynebwyr cyfarwydd iawn i Gymru, gyda'r ddwy wlad wedi chwarae ei gilydd ar naw achlysur ers 2012.
Roedd Gwlad Belg yn yr un grŵp rhagbrofol a Chymru ar gyfer Cwpan y Byd 2022, gyda'r Diafoliaid Coch yn ennill y grŵp a Chymru yn gorffen yn ail cyn cyrraedd Qatar trwy'r gemau ail gyfle.
Mae'r fuddugoliaeth o 3-1 dros Wlad Belg yn rownd wyth olaf Euro 2016 yn un o'r uchafbwyntiau yn hanes y tîm rhyngwladol ac roedd gôl Gareth Bale yn ddigon i'w curo yn yr ymgyrch ragbrofol flwyddyn ynghynt.
Bu digon o sôn am genhedlaeth euraidd Gwlad Belg dros y blynyddoedd, ond doedden nhw methu â chyflawni'r potensial yna ar y llwyfan mwyaf.
Mae'r cyfnod hwnnw bellach ar ben ond mae seren Manchester City, Kevin de Bruyne ac ymosodwr Napoli, Romelu Lukaku yn parhau yn aelodau allweddol o'r garfan.

Rheolwr presennol Cymru Craig Bellamy yn chwarae yn erbyn Gogledd Macedonia
Gogledd Macedonia
Mae'n 11 mlynedd ers i Gymru wynebu Gogledd Macedonia yn ystod gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 – gyda Chymru yn ennill o 1-0 yng Nghaerdydd diolch i gôl gan Simon Church.
Honno oedd gêm olaf Craig Bellamy fel chwaraewr ar y llwyfan rhyngwladol, ac fe fydd y rheolwr presennol yn awyddus i osgoi ffawd un o'i ragflaenwyr yn y swydd, Chris Coleman.
Pan chwaraeodd y ddwy wlad yn Skopje fe gollodd tîm Coleman o 2-1, a hynny ar ôl i'r rheolwr golli ei basbort a gorfod teithio'n hwyrach i ymuno â'r garfan.
Llwyddodd Gogledd Macedonia i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020 – eu hymddangosiad cyntaf yn un o'r prif gystadlaethau erioed.
Colli i Bortiwgal oedd eu hanes yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd 2022.
Kazakhstan
Tra bydd nifer o aelodau'r Wal Goch yn falch iawn o ymweld â gwlad newydd, bydd y daith i Kazakhstan yn her fawr i Gymru.
Mae carfan Craig Bellamy yn wynebu taith o dros 3,000 o filltiroedd i gyrraedd Kazakhstan – taith wnaeth carfan Chelsea ei gwneud yn gynharach yr wythnos hon.

Chwaraeodd tîm merched Cymru oddi cartref yn Kazakhstan ym mis Ebrill 2022
Ers dod yn aelodau o Uefa yn 2002, tydi Kazakhstan erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau.
Ond roeddynt ymysg y timau wnaeth gyrraedd gemau ail gyfle Euro 2024, cyn colli i Wlad Groeg.
Liechtenstein
Mae Cymru wedi wynebu Liechtenstein dair gwaith o'r blaen ac wedi ennill pob un o'r gemau hynny.
Roedd dwy o'r gemau hynny yn ystod rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2010 gyda Chymru yn ennill y ddwy gêm o 2-0.

Roedd Gareth Bale yn aelod o'r tîm enillodd o 2-0 yn erbyn Liechtenstein yn 2009
Dydy Liechtenstein heb ennill gêm gystadleuol ers 2014 a dim ond unwaith maen nhw wedi cael buddugoliaeth yn y pedair blynedd ddiwethaf.
Dim ond San Marino sydd yn is na Liechtenstein ymysg gwledydd Ewrop ar restr detholion Fifa.