Cwpan y Byd 2026: Cymru i wynebu Gwlad Belg eto

CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd tîm pêl-droed Cymru'n wynebu Gwlad Belg, Gogledd Macedonia, Kazakhstan a Liechtenstein yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.

Mae Cymru wedi eu rhoi yng ngrŵp J ar gyfer yr ymgyrch - un o'r grwpiau o bump o dimau.

Bydd y gemau'n cael eu chwarae rhwng mis Mawrth a Thachwedd 2025.

Fel yn yr ymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd 2022, fe fydd Cymru'n wynebu Gwlad Belg.

Mae rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn cael eu cynnal yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico yn 2026.

Ar ôl aros 64 o flynyddoedd i gyrraedd y rowndiau terfynol am yr eildro yn unig yn Qatar 2022, bydd Cymru'n gobeithio selio eu lle am yr eildro yn olynol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru wedi eu rhoi yng ngrŵp J ar gyfer yr ymgyrch

Y grŵp yn llawn:

  • Gwlad Belg

  • Cymru

  • Gogledd Macedonia

  • Kazakhstan

  • Liechtenstein

Sut mae cyrraedd Cwpan y Byd?

Mae grwpiau o bedwar a grwpiau o bump yn y rowndiau rhagbrofol eleni.

Fe fydd pob tîm yn chwarae eu gwrthwynebwyr gartref ac oddi cartref fel yr arfer.

Mae'r tîm sy'n gorffen ar frig pob grŵp yn sicrhau lle yng Nghwpan y Byd, gyda'r rhai sy'n ail yn mynd i'r gemau ail-gyfle.

Yn ogystal â thimau sy'n cyrraedd y gemau ail-gyfle o Gynghrair y Cenhedloedd, fe fydd y timau yn y gemau ail-gyfle yn cael eu rhoi mewn potiau ar sail perfformiad.

Fe fydd rowndiau cynderfynol a therfynol yn y gemau ail-gyfle.