Gobaith am hwb i'r Gymraeg yn Wrecsam ym mlwyddyn yr Eisteddfod

Chris Evanms, Saith Seren
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Evans yn dweud bod pobl yn mynd i'r Saith Seren i "ddathlu bod yn Gymry"

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ardal Wrecsam yn gobeithio y bydd croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn creu gwaddol tebyg i'r un gafodd ei adael y tro diwethaf i'r Brifwyl ymweld.

Ers i'r Eisteddfod gael ei chynnal yn y ddinas 14 mlynedd yn ôl, mae dwy ysgol gynradd Gymraeg a chanolfan Gymraeg mewn tafarn wedi agor yn yr ardal.

Er bod ffigyrau swyddogol yn dangos cwymp bychan yn nifer y siaradwr Cymraeg, mae llawer yn gobeithio y bydd ymweliad y Brifwyl yn rhoi hwb arall.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Is-y-Coed rhwng 2-9 Awst.

Cafodd tafarn y Saith Seren ei hailagor fel menter gymunedol Gymraeg yn fuan ar ôl Eisteddfod Wrecsam 2011.

Er gwaethaf cyfnodau heriol, mae'r Cadeirydd, Chris Evans yn credu bod y ganolfan wedi cryfhau a gwella dros y blynyddoedd.

"Mae'r gigiau Cymraeg yn llwyddo ac mae'r Clwb Clebran yn llwyddo i ddenu aelodau newydd yn gyson," meddai.

"A felly mae wir angen lle fel 'ma yn Wrecsam i hybu'r iaith.

"'Di Wrecsam ddim y lle cryfaf o ran nifer sy'n siarad yr iaith ond mae 'na yn sicr falchder yn yr iaith Gymraeg a bod yn Gymry. Falle oherwydd ein bod ni mor agos at y ffin."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tafarn y Saith Seren ei hagor fel canolfan Gymraeg yn fuan ar ôl Eisteddfod Wrecsam 2011

Yn ôl ffigyrau'r Cyfrifiad diwethaf, roedd 'na gwymp yn nifer y bobl sy'n disgrifio'u hunaniaeth genedlaethol yn bennaf fel 'Cymreig' yn Sir Wrecsam o 52% yn 2011 i 50% yn 2021.

Roedd 'na gwymp bychan hefyd yn y nifer sy'n dweud eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg - o 12.9% yn 2011 i 12.2% yn 2021.

Disgrifiad o’r llun,

Rhiannon James yw pennaeth Ysgol Llan-Y-Pwll

Mae Cyngor Wrecsam wedi agor dwy ysgol gynradd Gymraeg ers 2011.

Y diweddaraf ydy Ysgol Llan-y-Pwll yn ardal Borras o'r ddinas, ble mae'r dosbarthiadau'n llenwi'n raddol, yn ôl y pennaeth Rhiannon James, sy'n dweud bod agor yr ysgol newydd yn "gyffrous".

"Roedd 'na lot o bobl yn trio cael addysg Gymraeg ar gyfer eu plant ac un ai'n gorfod teithio'n bell neu ddim yn gallu cael lle yn yr ysgol leol felly mi agorwyd yr ysgol hon ar gyfer yr ardal yma."

Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Llan-Y-Pwll, agorodd yn 2022, yw ysgol Gymraeg ddiweddaraf Wrecsam

"Mae gynno' ni rieni cefnogol iawn yma," ychwanegodd Ms James.

"Maen nhw eisiau i'w plant ddysgu Cymraeg oherwydd maen nhw'n gweld ar gyfer y dyfodol y manteision sy'n mynd i ddod o hynny."

"Ond maen nhw hefyd yn hapus ein bod ni'n ysgol fechan ar hyn o bryd, yn ysgol sy'n gofalu ac yn ceisio gwneud yn siŵr bod ein plant ni i gyd yn hapus ac yn ddiogel."

'Hynod o bwysig i'r ardal'

Yng Ngholeg Cambria, mae canolfan Gymraeg newydd ar fin cael ei chreu i hwyluso'r rhai sy'n dysgu Cymraeg ac yn astudio trwy'r iaith.

Mae cyrsiau dysgu Cymraeg yn llenwi'n gyflym, yn ôl pennaeth y Gymraeg yno, Llinos Roberts, sydd hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Wrecsam.

"Dwi'n meddwl bod y Steddfod yn mynd i fod yn hynod o bwysig i ni yn yr ardal yma nid yn unig o ran yr iaith ond o ran y diwylliant hefyd.

"Yn amlwg 'den ni wedi bod yn brysur yn codi arian, mae 'na lawer iawn o bobl wedi dod at ei gilydd, o bob oedran, o bob man, wedi dod at ei gilydd i drefnu pethau yn yr ardal yma."

Disgrifiad o’r llun,

Llinos Roberts yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn 2025

Ychwanegodd Ms Roberts: "Mae o wedi creu rhyw fath o fwrlwm. Bwrlwm yn yr iaith Gymraeg ac yn y diwylliant.

"Dwi'n teimlo ein bod ni wedi cynnwys llawer o bobl di-Gymraeg yn y gweithgareddau."

Mae aelodau o Uwch Adran Wrecsam Urdd Gobaith Cymru ymhlith y rhai sy'n edrych ymlaen at yr Eisteddfod.

"Dwi mor gyffrous i weld loads o bobl yma," medd Rhiannon, "fydd anti fi'n dod lawr a fydd o'n lot o hwyl."

Dywedodd Malan ei bod wedi bod yn cystadlu yn Eisteddfod ers blynyddoedd.

"Mae'n rhan mawr o teulu fi a pwy ydw i hefyd. Oedd nain fi'n arfer cystadlu a wedyn Mam a fi. Ac ie, mae'n rhan mawr o pwy yden ni fel Cymry."

Disgrifiad o’r llun,

Rhiannon, Owain a Malan

Roedd Owain yn amau nad ydy llawer o blant yn gwybod beth ydy'r Eisteddfod ac mae'n teimlo bod y ffaith bod llawer o'i gyfoedion yn siarad Saesneg gyda'i gilydd yn beth "od".

"Dwi ddim yn gwybod pam. Dwi'n meddwl 'sach chi'n cael i'r arferiad o siarad Cymraeg, 'sach chi yn.

"Mewn lle fel yr Adran ac yn y Saith Seren, 'den ni'n trio siarad Cymraeg," meddai.