Cwmni i dalu £34,000 ar ôl i fygi golff ddisgyn ar weithiwr a'i ladd

GNH Agri LtdFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw gweithiwr ar safle GNH Agri Ltd yn Aberdesach ar 3 Tachwedd 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i gwmni offer amaethyddol o Wynedd dalu £34,000 am droseddau iechyd a diogelwch wedi i weithiwr farw mewn damwain ar eu safle.

Bu farw Warren Hayles ar ôl i fygi golff a oedd wedi'i godi gan dryc pallet stacker ddisgyn arno o uchder yn safle GNH Agri Ltd, Meithrinfa, Aberdesach, ar 3 Tachwedd 2021.

Roedd Mr Hayles yn beiriannydd profiadol oedd yn gweithio i'r cwmni ers cryn amser.

Yn dilyn erlyniad gan Gyngor Gwynedd, fe blediodd GNH Agri Ltd yn euog i'r cyhuddiad eu bod wedi methu - cyn belled â fo'n ymarferol bosib - sicrhau iechyd a diogelwch eu gweithwyr.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, cafodd y cwmni ddirwy o £16,000 a gorchymyn i dalu costau o £18,000 a thaliad ychwanegol o £190.

'Cyfarpar yn gwbl anaddas'

Yn dilyn y ddamwain, cafodd ymchwiliad ei gynnal gan Gyngor Gwynedd gyda chymorth arolygwyr arbenigol y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) a Heddlu Gogledd Cymru.

Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad fod asesiadau risg y cwmni yn annigonol, roedd y cyfarpar codi a gafodd ei defnyddio yn gwbl anaddas ac nad oedd trefniadau addas ar gyfer hyfforddi a goruchwylio staff, yn ôl y cyngor.

Dywedodd Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd: "Roedd yr achos yma yn un difrifol iawn a hynny yn dilyn damwain trasig ar safle cwmni GNH yn Aberdesach lle collodd Warren Hayles ei fywyd.

"Mae swyddogion y Cyngor wedi cadw mewn cyswllt gyda'r teulu yn ystod yr ymchwiliad ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad iddynt yn dilyn cyfnod mor anodd.

"Fel Cyngor, mae dyletswydd arnom i sicrhau fod unrhyw safle gwaith yn ddiogel a bod gweithwyr yn cael eu diogelu yn ystod eu gwaith bob dydd.

"Mae'n hollbwysig fod perchnogion busnesau a rheini sy'n gyfrifol am safleoedd yn sicrhau bod offer addas yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith, fod dulliau gweithredu diogel mewn lle, ac asesiadau risg addas wedi eu paratoi ac yn cael eu gweithredu."

Pynciau cysylltiedig