Mab cyn-seren bêl-droed wedi ei garcharu am ymosod ar ddynes 67 oed

Joni HartsonFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Hartson wedi dweud ei fod yn "difaru peidio ei lladd" wedi'r digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae mab cyn-chwaraewr i dîm pêl-droed Cymru wedi cael ei garcharu am daro dynes 33 o weithiau - gan achosi anaf difrifol i'w phen.

Fe wnaeth Joni Hartson, 22, mab cyn-seren Arsenal, Celtic a West Ham John Hartson, ymosod ar y cyn-dditectif Dawn Lloyd ar 18 Hydref y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Hartson wedi dweud ei fod yn difaru peidio ei lladd hi yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd ei ddedfrydu ddydd Iau i ddwy flynedd a chwe mis o garchar am yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan y barnwr fel "ymosodiad bwriadol oedd wedi ei gynllunio".

Roedd Hartson, 22, a Ms Lloyd, 67, yn gleifion ar ward ysbyty pan wnaeth o ei thargedu hi oherwydd ei hoedran a'i denu i'r ardd gefn.

Dywedodd yr erlyniad fod Ms Lloyd wedi cael ei tharo "tua 33 o weithiau" gan y diffynnydd, a bod hi wedi "gwneud dim ond codi ei breichiau i amddiffyn ei hun".

Clywodd y llys fod Hartson, sydd yn awtistig, yn glaf ar ward Bryngofal yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.

Doedd Hartson ddim yn breswylydd parhaol pan ddigwyddodd yr ymosodiad, ond roedd yn yr ysbyty gan ei fod wedi profi teimladau hunanladdol.

'Targed hawdd'

Ychwanegodd yr erlyniad fod Hartson wedi dweud wrth swyddogion fod "ei ddicter wedi dod allan" ar ôl denu Ms Lloyd i'r ardd gan ei fod yn gwybod ei bod yn "darged hawdd", a'i fod "wedi ei tharo ddeg o weithiau yn ei phen".

Clywodd y llys fod Ms Lloyd - cyn-dditectif a swyddog amddiffyn - yn dioddef pyliau o ddryswch oherwydd cyflwr awto-imiwn pan gafodd ei derbyn i'r uned iechyd meddwl.

Dywedodd rheolwr y ward dros dro, Hannah Cox, fod natur Ms Lloyd "wedi newid yn llwyr" yn dilyn yr ymosodiad, ei bod yn dioddef o orbryder a bod synau mawr yn ei dychryn.

Clywodd y llys hefyd fod Hartson wedi ymosod ar weithiwr iechyd arall rai dyddiau yn ddiweddarach ar ôl cael ei symud i ysbyty yng Nghaerfyrddin.

Yn ôl yr amddiffyniad, roedd Hartson yn dioddef o iselder ar y pryd yn ogystal â theimladau hunanladdol a "rhithwelediadau posib" oedd yn cael effaith ar ei ymddygiad.

Fe blediodd Hartson yn euog i achosi niwed corfforol difrifol ac i gyhuddiad o ymosod ar weithiwr argyfwng.

Dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke: "Fe wnes di ddewis Ms Lloyd gan dy fod yn gallu gweld ei bod yn fregus... fe wnes di ddewis rhywun nad oedd, yn amlwg, am allu dy rwystro."

Pynciau cysylltiedig