'Arwr' yn achub mam a'i babi wythnos oed o ymosodiad gan dri o gŵn

Dywedodd William Newbury iddo ddefnyddio ffenest i fynd i mewn i'r tŷ "heb hyd yn oed meddwl am y peth"
- Cyhoeddwyd
Mae mam wedi disgrifio dyn 22 oed fel "arwr" am ei hachub hi a'i babi wythnos oed wrth i dri o gŵn ymosod arnyn nhw.
Aeth William Newbury i helpu Emily Drew, 19, a'i babi pan welodd yr ymosodiad "hunllefus" drwy flwch llythyrau ei chartref, ar ôl mynd yno i roi anrhegion i'r babi.
Dywedodd Ms Drew ei bod hi'n meddwl y byddai hi a'i mab yn marw pan ddigwyddodd yr ymosodiad ar Sul y Mamau yn Llanrhymni, Caerdydd.
Cafodd Mr Newbury wahanol anafiadau ar hyd ei gorff - gan gynnwys colli'r defnydd o ddau fys ar ei law chwith.
"Mae e wedi achub dau fywyd. Mae angen iddo gofio fod gan fy mab wir arwr," meddai Ms Drew.
Dywedodd Heddlu'r De fod tri Staffordshire bull terriers oedd yn rhan o'r ymosodiad ar 30 Mawrth wedi'u dinistrio, ond nad oedd unrhyw un wedi'u harestio.

"Y cwbl oeddwn i'n poeni amdano oedd bod fy mabi'n byw," meddai Emily Drew
Dywedodd Ms Drew iddi geisio gwneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn ei babi, gan gynnwys ei orchuddio - fel na allai'r cŵn ymosod arno.
"Roedd mor frawychus. Roeddwn i'n meddwl fy mod yn mynd i farw'r diwrnod hwnnw," meddai.
Ychwanegodd ei bod hi ar un adeg yn meddwl bod y babi wedi marw, gan ei fod yn dawel.
"Y cwbl oeddwn i'n poeni amdano oedd bod fy mabi'n byw."
Cafodd Ms Drew a'i mab driniaeth yn yr ysbyty am eu hanafiadau - ond nid oedden nhw'n rhai oedd yn peryglu bywyd.

Dywedodd Mr Newbury iddo dreulio wythnos yn yr ysbyty cyn cael ei ryddhau, ond bod ei adferiad yn parhau
Dywedodd Mr Newbury, o'r Rhath yng Nghaerdydd, iddo fynd i mewn i'r tŷ drwy'r ffenest "heb hyd yn oed meddwl am y peth," i helpu'r fam ar ei thraed, a phasio'r babi allan trwy'r ffenest.
Fe dreuliodd wythnos yn yr ysbyty cyn cael ei ryddhau, ond bod ei adferiad yn parhau.
"Dwi wedi cael un sesiwn gwnsela yn barod i ddod dros hyn - dwi wedi cael hunllefau, gallaf ailchwarae'r holl sefyllfa yn fy mhen, mae'n erchyll."
Dywedodd Heddlu'r De bod swyddogion wedi'u galw i'r digwyddiad a bod y tri pherson dan sylw wedi dioddef anafiadau oedd angen triniaeth - ond nad oedden nhw'n rhai sy'n bygwth bywyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd26 Medi 2023