Perchnogion cŵn yn beirniadu proses wirio bridiau'r heddlu

Mae hi'n anghyfreithlon bod yn berchen ar gi XL Bully yn y Deyrnas Unedig, heb drwydded arbennig
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion cŵn gafodd eu cymryd gan yr heddlu er mwyn gwirio am fridiau wedi'u gwahardd wedi beirniadu'r ffordd y cafodd y broses ei gweithredu.
Dywedodd Natasha Goodall a'i phartner, Jordan Williams, fod yr adeg pan gafodd eu Ci Tarw Americanaidd ei gymryd fel "plentyn yn cael ei rwygo wrthynt" cyn i'r heddlu gadarnhau nad oedd y ci yn frid XL bully.
Maen nhw'n galw i berchnogion i gael mwy o amser i baratoi cyn bod eu cŵn yn cael eu cymryd wrthynt, ac yn galw i'r profion gael eu cynnal yn nhŷ'r perchnogion.
Ddywedodd Heddlu'r De fod mesurau o'r fath wedi cael eu rhoi mewn grym er mwyn "gwella diogelwch y cyhoedd", a lleihau poblogaeth yr XL bully dros amser.
'Chwalfa emosiynol'
Cafodd gwaharddiad XL bully ei gyflwyno yng Nghymru a Lloegr ar Chwefror 1 2024 yn dilyn nifer o ymosodiadau yn ymwneud â'r cŵn.
Bellach mae'n drosedd i fod yn berchen ar XL bully heb dystysgrif eithrio yn y ddwy wlad, tra bod cyfyngiadau tebyg yn Iwerddon a'r Alban.
Cafodd gwarant ei godi yn awdurdodi'r heddlu i chwilio yng nghartref Ms Goodall a Mr William am "gi math pitbull" gwyn.
Dywedodd y ddynes 28 oed ei bod mewn "sioc" pan gyrhaeddodd yr heddlu i'w thŷ yng Nghlydach ar ôl i'r swyddogion dderbyn adroddiadau honedig o XL bully heb ei eithrio yno.
"Daethant ag wyth neu naw o swyddogion ond i'w gymryd ef i ffwrdd, roedd yn ddychrynllyd," meddai.
Mae cŵn yn cael eu mesur gan heddlu er mwyn penderfynu os ydynt yn ffitio disgrifiad maint XL Bully - sydd ddim yn cael ei gydnabod fel brîd penodol.
Galwodd Ms Goodall ar yr heddlu i wneud y mesuriadau yma yng nghartrefi'r anifail anwes, gan ychwanegu'r "byddai wedi arbed llawer o straen."
Dywedodd fod angen i luoedd heddlu fod "yn fwy addysgedig o ran y bridiau", a byddai hi'n hoffi i berchnogion gael mwy o amser i baratoi.
"O leiaf wedyn mae gennych chi gyfle i'w brosesu. Mae o fel rhywun yn rhwygo plentyn i ffwrdd ohonoch," meddai.

Nid ydy Cŵn Tarw Americanaidd wedi'u gwahardd yn y Deyrnas Unedig
Fe wnaeth perchnogion Ralph dderbyn cadarnhad bedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei gymryd gan y teulu mai American Bulldog ydoedd.
Dywedodd Mr Williams, 31, ei fod yn emosiynol iawn pan gafodd y ci - sydd heb hanes o fod yn dreisgar - ei gymryd, a'i fod "fel plentyn iddo".
Dywedodd y pâr eu bod "wedi cyffroi" i ddod adref gan ddiolch i'r cenel am edrych ar ôl y ci "yn eithriadol o dda".
Ond maen nhw'n bwriadu gwneud cwyn am eu bod yn anhapus am y ffordd y cafodd y ci ei gymryd.
'Dychwelyd mewn cyflwr gwael iawn'
Cafodd dau gi Anthony Webb o Gasnewydd, Lexi a Major, eu cymryd oddi wrtho fis Hydref y llynedd.
Mae gan y ddau nodweddion XL Bully, ac mi gafon nhw eu hystyried yn beryglus mewn gwarant, ond fe gafodd y cŵn eu dychwelyd 12 diwrnod yn ddiweddarach.
Honnodd Mr Webb ei fod "dan straen" yn aros am ddiweddariadau gan Heddlu Gwent.
"Fe wnaethon nhw eu cymryd ac yna roeddem yn holi am ddiweddariadau yn gyson, ond nid oeddem yn cael unrhyw ddiweddariad. Roedd hyn yn achosi straen am mai nhw yw anifeiliaid anwes y teulu," meddai.
"Roeddem yn rhoi galwad pob yn ail ddiwrnod mwy neu lai, drwy ffôn, drwy e-bost. Yn hwyrach gafon ni wybod eu bod yn cael dychwelyd.
"Dwi'n dueddol o beidio â mynd a'r cwn allan am dro cymaint nawr am eu bod yn haeddu i dyfu allan," ychwanegodd Mr Webb.
"Dwi'n methu newid y gorffennol, ond oll alla i ddweud yw 'mod i'n hapus bod y sefyllfa heb gael ei lusgo yn ei flaen."
Mae Heddlu Gwent wedi cael cais am ymateb.
- Cyhoeddwyd26 Medi 2023
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd14 Awst 2024
Gan gynnwys yr XL Bully, mae pum brîd cŵn wedi'u gwahardd yn y DU:
Pit Bull Terrier Americanaidd
Tosa Japaneaidd
Dogo Argentinos
Fila Brazileiro
Roedd 614 o dderbyniadau wedi'u hachosi gan rywun yn cael ei frathu neu ei daro gan gi yn 2023-24 o'i gymharu â 765 y flwyddyn flaenorol, yn ôl GIG Cymru.
Mae'r gwaharddiad hefyd wedi cael effaith ar adnoddau'r heddlu, gyda chostau cenelau a biliau milfeddygol yn cyfrannu at yr £25m y mae disgwyl i gael ei wario erbyn mis Ebrill eleni.
Dywedodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu fod y gwaharddiad wedi rhoi "baich enfawr" ar heddluoedd.
'Rhaid i gŵn XL Bully gael eu cofrestru'
Mewn datganiad dywedodd Heddlu'r De bod cŵn sy'n cael eu cymryd yn cael eu "cludo i safleoedd cenel diogel", lle bydd swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn asesu'r ci.
Ychwanegodd fod yn rhaid i gŵn XL Bully "gael eu cofrestru, eu microsglodynnu, eu hysbaddu, wedi'u cadw â safnffrwyn ac ar dennyn yn gyhoeddus, a chael yswiriant trydydd parti gyda'r Ymddiriedolaeth Cŵn."
Ers mis Chwefror diwethaf mae'r heddlu wedi dweud eu bod wedi nodi "dros 1,500 o gyfeiriadau yn yr ardal fel rhai sy'n cael eu hamau o fod yn berchen ar XL Bully".