Cynllun i droi Plas Tan y Bwlch yn bencadlys - yn hytrach na'i werthu

Plas Tan y BwlchFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Plas Tan y Bwlch, adeilad rhestredig Gradd II, ar y farchnad am £1.2m

  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau dadleuol gafodd eu cyflwyno y llynedd i werthu plasty yng Ngwynedd wedi'u gohirio.

Cafodd Plas Tan y Bwlch ei roi ar werth am £1.2m ym mis Awst 2024 ar ôl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddweud nad oedd yn bosib iddyn nhw barhau i'w ariannu.

Ond cafodd yr adeilad Gradd II rhestredig ym Maentwrog ei dynnu oddi ar y farchnad dros dro yn ddiweddarach.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher, cefnogodd aelodau'r awdurdod gynnig i edrych ar ffyrdd o drawsnewid y plasty hanesyddol yn bencadlys newydd yr awdurdod.

'Dim dewis ond gwerthu' heb arian loteri

Mae'r awdurdod yn bwriadu sicrhau rhwng £5m a £10m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Os bydd y cynllun yn llwyddiannus, byddai awdurdod y parc wedyn yn cau ei bencadlys presennol, adeilad modern ym Mhenrhyndeudraeth.

Dywedodd y prif weithredwr Jonathan Cawley yn ei adroddiad i aelodau'r awdurdod: "Rwyf eisoes wedi dechrau trafodaethau cyfrinachol gyda rhai sefydliadau partner posibl, ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn."

Ond nododd "os byddwn yn methu ar unrhyw gam o broses Grant y Loteri, ni fydd gan yr Awdurdod unrhyw ddewis ar ôl heblaw gwerthu'r Plas".

Fe sbardunodd y cynllun i werthu Plas Tan y Bwlch wrthwynebiad lleol gydag ymgyrchwyr yn bryderus y byddai gwerthu'r plasty, a gafodd ei adeiladu gan deulu Oakeley sy'n berchen ar y chwarel lechi leol, yn atal mynediad i'r coetir a'r llwybrau cyfagos.

Jonathan CawleyFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Cawley yw Prif Weithredwr y Parc ers 2024

Mae adroddiad y prif weithredwr yn nodi, os oes rhaid gwerthu Plas Tan y Bwlch, "y dylai'r Awdurdod gadw rheolaeth ar y coetiroedd a Llyn Mair".

Mae'r adroddiad yn nodi y byddai'n debygol o gymryd tan 2028 i gyflwyno cais am gyllid loteri llawn.

Ond fe ddylai'r awdurdod wybod o fewn tua blwyddyn os yw eu cais yn debygol o lwyddo.

Mae awdurdod y parc yn wynebu diffyg cyllid, gyda chostau cynyddol a gwaith ei angen ar Blas Tan y Bwlch ei hun.

'Safle defnydd cymysg'

Mae adroddiad y prif weithredwr yn dweud y byddai defnyddio'r Plas fel unig swyddfa barhaol yr Awdurdod "yn darparu dyfodol mwy hyfyw i'r adeilad, yn ogystal ag arbed costau drwy waredu ein pencadlys presennol".

"Tra bod Plas ar hyn o bryd yn ddrytach i'w redeg na phencadlys Penrhyndeudraeth, bydd archwiliad pellach yn digwydd gyda golwg ar leihau costau rhedeg cyffredinol y Plas," meddai.

"Efallai y bydd cyfleoedd i wneud Plas yn wyrddach ac yn rhatach i'w redeg e.e. cynyddu effeithlonrwydd ynni, system wresogi fwy effeithlon, adolygu gwerth ardrethol, ffrydiau incwm newydd ac ati.

"Yn ogystal â bod yn brif safle swyddfeydd yr Awdurdod, rhagwelir y byddai'r Plas yn safle defnydd cymysg – gyda defnydd cymunedol, addysgol, manwerthu, caffi, gardd agored yn ogystal â defnydd swyddfa'r Awdurdod."

Os bod cyllid yn cael ei sicrhau, mae yna amcangyfrif y gallai'r gwaith sydd angen ei gyflawni gymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd.