Plasty yn Eryri ar werth am £1.2m wedi 'toriadau sylweddol'
- Cyhoeddwyd
Mae Plas Tan-y-Bwlch wedi cael ei roi ar y farchnad, ar ôl misoedd o drafodaethau am ei ddyfodol.
Mae'r adeilad rhestredig Gradd II ym Maentwrog ar werth am £1.2m.
Mewn datganiad fe wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gadarnhau eu bod wedi rhoi'r plasty ar werth gan nad ydy hi'n bosib iddyn nhw barhau i'w ariannu.
Er bod y plasty ar y farchnad, mae'r awdurdod yn dweud eu bod nhw'n dal i ystyried sawl opsiwn posib yn eu hymdrechion i "sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Plas".
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023
Roedd y plasty gwledig yn gartref i deulu'r Oakeleys, sef perchnogion chwareli yn yr ardal, cyn cael ei drawsnewid yn ganolfan sy'n cynnig ystod o gyrsiau preswyl i ysgolion ac aelodau'r cyhoedd.
Yn ogystal â'i statws rhestredig Gradd II, mae Plas Tan-y-Bwlch wedi ei restru fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Daeth yr adeilad o dan reolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bron i 50 mlynedd yn ôl, ond maen nhw'n cyfaddef fod y degawd diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol i'r hen blasty oherwydd toriadau "sylweddol" ac effaith chwyddiant.
Mewn datganiad, mae'r awdurdod wedi cadarnhau bod y plasty ar werth.
Dywedodd aelodau'r awdurdod nad oedd yw hi "yn fasnachol hyfyw" iddyn nhw reoli'r safle bellach.
'Awyddus i sicrhau dyfodol llewyrchus'
Mewn datganiad, dywedodd: "Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ceisio nifer o wahanol opsiynau yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf er mwyn darganfod model busnes fyddai yn lleihau’r gost i’r awdurdod gynnal canolfan Plas Tan y Bwlch."
Ychwanegodd nad yw'n bosib i'r awdurdod ariannu'r ganolfan bellach, oherwydd "toriadau sylweddol iawn yn ein cyllidebau".
Er bod y plasty ar werth, nid yw dyfodol yr adeilad wedi ei benderfynu eto.
Mae'r awdurdod wedi cadarnhau eu bod wedi cysylltu gyda sawl cwmni lleol er mwyn ceisio "sicrhau dyfodol hir dymor y Plas".
Mae trafodaethau yn parhau gydag un cwmni cymunedol, sydd heb gael ei enwi.
Ond yn y cyfamser, dywedodd yr awdurdod eu bod nhw'n "agored i gynigion ar y farchnad agored".
Bydd yr holl opsiynau posib yn cael eu trafod mewn cyfarfod ym mis Medi.