Arestio dyn, 18, wedi gwrthdrawiad ger Cross Hands

- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 wedi cael ei arestio wedi gwrthdrawiad rhwng Cross Hands a Phont Abraham am 04:20 fore Sadwrn.
Cafodd pedwar o bobl eu cludo i'r ysbyty am driniaeth ar gyfer anafiadau nad oedd yn bygwth eu bywyd.
Y ddau gerbyd oedd yn rhan o'r digwyddiad oedd BMW du a Toyota Prius gwyn.
Mae dyn 18 oed wedi'i ryddhau o'r ysbyty ac yn parhau i gael ei holi gan yr heddlu ar amheuaeth o achosi niwed difrifol wrth yrru'n beryglus, gyrru heb yswiriant a gyrru o dan ddylanwad.
Roedd gyrrwr y BMW wedi methu â stopio cyn y gwrthdrawiad wedi iddo gael cais i wneud hynny gan yr heddlu.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi'i hysbysu ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Roedd ffordd yr A48 ar gau am gyfnod ond mae bellach wedi ailagor.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.