Cyhuddo un arall yn achos saethu Rhondda Cynon Taf

Bu farw Joanne Penney ar ôl cael ei saethu mewn fflat yn Llys Illtyd, Tonysguboriau
- Cyhoeddwyd
Mae person arall wedi cael ei gyhuddo yn dilyn marwolaeth Joanne Penney yn Rhondda Cynon Taf fis Mawrth.
Cafodd Ms Penney, 40 oed, ei saethu'n farw mewn bloc o fflatiau yn Nhonysguboriau ar 9 Mawrth eleni.
Mae Callum Kelleher, 37, o Lerpwl wedi cael ei gyhuddo o gymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol, gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac ymosod.
Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, gyda'r achos yn cael ei gynnal ym mis Hydref.
Mae'n golygu bod 11 o bobl wedi'u cyhuddo mewn perthynas â'r achos, gyda diffynyddion eraill yn pledio'n ddieuog i amrywiaeth o gyhuddiadau gan gynnwys llofruddiaeth, cynorthwyo troseddwr a chymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol.
Clywodd cwest a agorodd ym mis Mawrth fod Ms Penney wedi marw ar ôl cael ei saethu yn y frest, gydag anafiadau i'w chalon a'i hysgyfaint.
Mewn teyrnged, dywedodd teulu Ms Penney eu bod wedi'u dinistrio gan y golled, gan ychwanegu: "Ni fydd ei charedigrwydd, ei chryfder a'i chariad at ei theulu byth yn cael eu hanghofio."
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd21 awr yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.