'Dwi'n dal i gael ôl-fflachiadau ers i gi frathu fy ngwyneb'

Erin Evans ar ol cael tatw cosmetigFfynhonnell y llun, Erin Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Erin Evans yn dweud bod llawdriniaeth a thatŵ cosmetig wedi codi ei hunan-hyder

  • Cyhoeddwyd

Mae dioddefwyr ymosodiadau gan gŵn wedi disgrifio effaith corfforol a meddyliol ddinistriol eu hanafiadau, wrth i ddata newydd ddangos bod miloedd wedi cael triniaeth feddygol am ymosodiadau gan gŵn dros y pum mlynedd diwethaf.

Fe wnaeth ci frathu Erin Evans o Wynedd ar ei hwyneb, ac er iddi wella wedi sawl llawdriniaeth dywedodd ei bod yn cael ôl-ffalchiadau ac wedi gadael ei chwrs gradd wedi'r digwyddiad.

Cafodd William Newbury achosi anafiadau difrifol pan ymosododd tri chi arno, a dywedodd ei fod wedi rhoi'r gorau i'w waith, gan golli "mwy nag £8,000".

Mae heddluoedd ledled Cymru a Lloegr wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymosodiadau gan gŵn ar bobl yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys delweddau graffig o frathiadau cŵn

Cafodd Erin Evans, 22 oed o Wynedd, ei brathu gan gi ar ei hwyneb bedair blynedd yn ôl, tra roedd hi allan gyda ffrindiau.

"Mae'n 'chydig o blank, dwi'n cofio bod llwyth o waed ac yna nes i ddisgyn," meddai Ms Evans.

Erin Evans gyda'i hanafFfynhonnell y llun, Erin Evans
Disgrifiad o’r llun,

Ymosodwyd ar Erin gan gi bedair blynedd yn ôl, mae'n dal i fod yn wyliadwrus o gŵn

Bu'n rhaid iddi gael llawdriniaethau dros bedair blynedd i ail-greu ei gwefus uchaf.

Yn sgil yr ymosodiad a cholli hyder, fe wnaeth Ms Evans roi'r gorau i'w gradd.

"Pan wnes i sylweddoli'n iawn beth oedd wedi digwydd, nes i ddechrau teimlo'n isel iawn", meddai.

"Yn edrych yn ôl dylwn i wedi gofyn am help."

'Arfer bod yn hapus drwy'r amser'

"Roeddwn i'n arfer bod yn llawn hwyl ac yn hapus drwy'r amser, ond roeddwn i wir yn cael trafferth ac allwn i ddim parhau.

"Roeddwn i'n mynd yn ôl ac ymlaen i'r ysbyty'n gyson ac yn ei chael hi'n anodd siarad amdano."

Dywedodd ei bod hi'n dal i gael ôl-fflachiadau ac yn wyliadwrus o gŵn, er gwaethaf cael tri ei hun a bod yn hoff o anifeiliaid.

Unwaith iddi gael y caniatâd gan y GIG bod ei gwefus wedi gwella'n llwyr o'r llawdriniaethau, cafodd Ms Evans datŵ cosmetig ar ei gwefus.

"O'r blaen, o'n i'n trio cuddio fy ngwefus, ond dydw i ddim fel 'na rŵan, dwi hyd yn oed yn cael compliments rŵan," meddai.

Dywedodd Ms Evans ei bod hi bellach yn teimlo'n llawer mwy hyderus.

Ers hynny mae hi wedi graddio mewn astudiaethau plentyndod ac ieuenctid, a dywedodd ei bod hi'n teimlo'n llawer mwy cadarnhaol am y dyfodol.

William Newbury yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, William Newbury
Disgrifiad o’r llun,

Mae William Newbury yn teimlo nad ydy llawer o bobl yn deall effeithiau hirdymor ymosodiad gan gi

Roedd William Newbury, o Gaerdydd, yn ymweld â ffrind a'i babi pan ymosodwyd arnynt gan dri chi. Fe gamodd Mr Newbury i mewn i'w hamddiffyn.

Dioddefodd anafiadau ar draws ei gorff, a bellach nid yw'n gallu defnyddio dau fys ar ei law chwith.

"Roedd y gefnogaeth pan ddes i allan o'r ysbyty yn rhyfeddol, ond nawr, dydw i ddim yn ymdopi," meddai Mr Newbury, sydd wedi methu dychwelyd i'w swydd ym maes diogelwch ers yr ymosodiad.

"Mae wedi effeithio fy hyder, pan dwi allan rwy'n cael pobl yn edrych arnai'n rhyfedd oherwydd bod gen i greithiau ar fy mreichiau," ychwanegodd.

Dywedodd ei fod yn talu am sesiynau cwnsela wythnosol oherwydd rhestrau aros y GIG.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud cynnydd i leihau amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl yn sgil y galw cynyddol am gefnogaeth.

William NewburyFfynhonnell y llun, William Newbury
Disgrifiad o’r llun,

Mae William Newbury, o Gaerdydd, wedi colli defnydd o ddau fys ar ei law chwith o ganlyniad i'r ymosodiad

Gofynnodd BBC Cymru am wybodaeth gan fyrddau iechyd Cymru a ddangosodd fod 2,910 o bobl wedi cael triniaeth feddygol am frathiad neu ymosodiad gan gi, dros y pum mlynedd diwethaf.

Dangosodd y data diweddaraf ar gyfer Lloegr fod mwy na 43,000 o adroddiadau am ymosodiadau gan gŵn wedi'u gwneud gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, rhwng 2020 a mis Tachwedd 2024.

Mae heddluoedd ledled Cymru a Lloegr hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymosodiadau gan gŵn ar bobl yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Cofnodwyd 32,568 o droseddau yn 2024 - cynnydd o 4% ar gyfanswm 2023 o 31,398, yn ôl ffigyrau Rhyddid Gwybodaeth a gafwyd gan y BBC gan bob heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Mae'n debygol bod y gwir ffigyrau am nifer yr ymosodiadau yn uwch gan mai dim ond y rhai sydd wedi eu cofnodi gyda'r heddlu y mae'r data yn eu cyfrif.

'Mae cŵn yn risg ddifrifol'

Dywedodd yr Athro Vivien Lees, Is-lywydd Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr, y gallai difrifoldeb anafiadau sy'n cael eu hachosi gan ymosodiadau gan gŵn amrywio'n fawr.

"Yn yr achosion mwyaf difrifol, efallai y bydd angen llawdriniaeth ail-adeiladu ac adfer hirdymor ar gleifion," meddai'r Athro Lees.

"Mae cŵn yn gallu peri risg ddifrifol, yn enwedig pan maen nhw wedi cael eu hyfforddi'n wael, eu hesgeuluso, neu eu cam-drin."

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi eich effeithio, gallwch ymweld â gwefan Action Line y BBC am gymorth.