Angen newid agweddau os am newid y system ofal - Cyngor Gwynedd

Amanda Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n meddwl bod 'na gyfle anhygoel inni fod yn rhan o'r datrysiad," meddai Amanda Davies

  • Cyhoeddwyd

Mae angen newid agweddau os am leihau'r nifer o bobl sy'n dibynnu ar y system ofal "draddodiadol", yn ôl Cyngor Gwynedd.

Yn ôl adroddiad i sefyllfa'r sector yng Ngwynedd dyw'r ddarpariaeth ddim yn gynaliadwy.

Mae'r cyngor eisiau symud tuag at gynlluniau "fwy ataliol" sy'n galluogi i bobl hŷn aros yn eu cartrefi a'u cymunedau cyn hired â bod modd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru y flaenoriaeth ydy "sicrhau gwasanaethau o ansawdd" a "chydbwysedd rhwng anghenion uniongyrchol ac anghenion hirdymor".

Fel sawl sir arall, mae Cyngor Gwynedd yn ceisio darparu mwy o gyllid a blaenoriaethu cynlluniau cymunedol er mwyn helpu pobl yn eu cymunedau.

Un enghraifft o hynny ydy clybiau i gadw pobl hŷn, neu bobl sydd wedi derbyn anaf, yn ystwyth.

Mae'n ffordd o geisio cadw pobl hŷn rhag mynd yn gaeth i'w tai ac yn actif.

'Rhoi hyder i bobl'

Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfannau Byw'n Iach y Sir, Amanda Davies, cynlluniau fel hyn - sy'n cynnig cefnogaeth ac ymarfer corff i bobl hŷn - ydy'r ffordd ymlaen i leddfu'r pwysau ar y system ofal.

"Dwi'n meddwl bod 'na gyfle anhygoel inni fod yn rhan o'r datrysiad," meddai Ms Davies.

"Mae'r hyn 'da ni'n gallu 'neud ydy rhoi'r hyder, y wybodaeth a sgiliau i bobl i aros yn actif ac yn annibynnol am yn hirach.

"A drwy neud hynny fe allwn ni gymryd pwysau oddi ar y gwasanaethau iechyd a gofal."

Disgrifiad o’r llun,

"Da ni eisiau bod yn meddwl am waith ataliol," meddai'r Cynghorydd Dilwyn Morgan

Gyda thros 25,000 o bobl yng Ngwynedd dros 65 oed a thraean o rheini dros 80 oed, rhybuddio mae'r cyngor nad yw'r sefyllfa ar hyn o bryd yn gynaliadwy gydag adroddiad 'Llechen Len' yn rhybuddio bod yn rhaid i'r system ofal traddodiadol newid.

"Da ni eisiau bod yn meddwl am waith ataliol," meddai'r Cynghorydd Dilwyn Morgan, deilydd Portffolio Oedolion Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd.

"Mae 'na bob math o dechnoleg ar gael felly ehangu sut 'da ni'n edrych ar ofal sydd ei angen."

Ond nid dim ond cadw'r corff yn heini sydd ei angen.

Mae'r cyngor yn cydnabod mai hanner y frwydr ydy cadw'r meddwl yn ystwyth a rhoi cefnogaeth i bobl hŷn gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan Porthi Dre Caernarfon yn lle i gael pryd o fwyd cynnes a chymdeithasu

Yng Nghaernarfon yng nghanolfan Porthi Dre mae 'na glwb i bobl hŷn bob wythnos.

Yn ôl Huw Rowlands, sy'n dod i'r sesiynau bob wythnos, maen nhw'n help enfawr.

"Mae'r capel 'di cau, siop y pentre' a pethau fela ond 'da chi'n dod i rhywle fel hyn a 'da chi'n dod i nabod pobl," meddai.

"Da chi'n edrych 'mlaen amdano fo - fydda i yn. Ac mae 'na fwyd da yma!"

Disgrifiad o’r llun,

"Y nod ydy bod neb yn gorfod cyrraedd y pwynt lle mae nhw'n gorfod derbyn gwasanaethau na fydde ni'n dymuno eu cael oni bai bod ni wir eu hangen," meddai Meilys Heulfryn Smith

"Yr her fwyaf ydy sicrhau bod ni'n rhoi'r cyfle i bobl i gael y bywyd da yn eu cymunedau", meddai Meilys Heulfryn Smith, Pennaeth Cefnogi Cymunedau iechyd a llesiant Cyngor Gwynedd.

"Y nod ydy bod neb yn gorfod cyrraedd y pwynt lle mae nhw'n gorfod derbyn gwasanaethau na fydde ni'n dymuno eu cael oni bai bod ni wir eu hangen."

Mae'r cyngor am weld mwy o gefnogaeth yn cael ei roi i fesurau ataliol a phrosiectau cymunedol sy'n gwneud gwahaniaeth mawr ar lawr gwlad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r "nod hirdymor yw creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru".

"Ein ffocws yw sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu'n barhaus, gan sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion uniongyrchol ac anghenion hirdymor ledled Cymru."

Pynciau cysylltiedig