Trallod gŵr gweddw wedi i gar ei wraig gael ei roi ar dân
- Cyhoeddwyd
Mae dyn mewn trallod, yn ôl yr heddlu, wedi i gar ei wraig gael ei roi ar dân dau ddiwrnod ar ôl iddi farw.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi i bedwar cerbyd gael eu rhoi ar dân ym Mro Morgannwg.
Dywed y llu eu bod yn credu bod y tanau wedi eu cynnau'n fwriadol rhyw bryd rhwng 01:50 a 02:10 ar 21 Rhagfyr.
Roedd dau o'r cerbydau yn Stacey Street, Dinas Powys, un yn St Andrews Road, Gwenfô, a'r llall yn Cross Common Road, Dinas Powys.
Mae'r heddlu hefyd yn ymchwilio i achosion pellach ar 27 Rhagfyr yn Llanharan a Rhydyfelin, Rhondda Cynon Taf.
Dywed y llu fod tri char wedi eu rhoi ar dân yn fwriadol rhwng 20:30 a 21:30.
Roedd un o'r cerbydau yn Park View, Llanharan, y tu allan i gartref teuluol lle'r oedd plentyn ifanc yn bresennol.
Ychydig yn ddiweddarach cafodd dau gerbyd eu rhoi ar dân yn Oak Street, Rhydyfelin, a cafodd y rhai a ddrwgdybir eu dal ar deledu cylch cyfyng.
Dywedodd Heddlu Gwent dydd Llun eu bod yn ymchwilio i bedwar achosion pellach o gerbydau yn cael eu rhoi ar dân yng Nglyn Llwyfen, Llanbradach.
Daeth y ddau adroddiad cyntaf i law tua 21:30 ddydd Gwener 20 Rhagfyr a derbyniwyd y ddau adroddiad canlynol tua 01:50 ddydd Mercher 25 Rhagfyr.
Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth ynghylch yr ymosodiadau.