Menyw, 48, wedi'i chanfod yn farw ar wely gan ei theulu - cwest

Tracey Davies Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Tracey Davies ei ganfod mewn eiddo yng Nghefn Cribwr ym mis Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi agor i farwolaeth menyw a gafodd ei chanfod yn farw yn ei chartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr fis diwethaf.

Clywodd Llys Crwner Pontypridd fod Tracey Davies, 48 oed, wedi cael ei darganfod yn ystafell wely ei chartref ar Ffordd Cefn, Cefn Cribwr ar 18 Ebrill.

Cafodd ei darganfod yn anymwybodol ar y gwely gan aelodau o'i theulu oedd â phryder am ei lles. Roedd ei gŵr yn bresennol.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad ond bu hi farw yn y fan a'r lle.

Yn dilyn archwiliad yn Ysbyty Athrofaol Llandochau cafodd pwysau ar y gwddf ei nodi fel achos marwolaeth cychwynnol.

Mae Michael Davies, 56 oed o Gefn Cribwr, wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o'i llofruddio.

Cafodd y cwest ei ohirio gan Grwner de Cymru, Patricia Morgan fore Gwener, tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.