Ateb y Galw: Rolant Tomos

Rolant TomosFfynhonnell y llun, Rolant Tomos
  • Cyhoeddwyd

Y cynhyrchydd teledu o Ddolgellau, Rolant Tomos sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.

Mae Rolant ar fin cyhoeddi ei nofel gyntaf, Meirw Byw; nofel i oedolion ifanc am deulu yn mynd ar "antur hollol wallgof" o amgylch Cymru.

Yn Annwn mae’r antur ffantasïol hon wedi’i gosod, a thasg Rhodri a’i blant, Gwen ac Idris, yw achub eu mam, sydd wedi cael ei chipio i’r is-fyd gan Arawn, y brenin creulon.

Dywed Rolant mai ysbrydion oedd ei ysbrydoliaeth wrth ysgrifennu’r nofel. "Dwi wedi gweld un a chael y profiad o gwrdd â phedwar dros y blynyddoedd", meddai.

"Doedd o ddim yn brofiad braf o gwbl, a gwnaeth hynny i mi feddwl sut y byddai pobl eraill yn ymateb i ddod wyneb yn wyneb ag un o’r meirw byw."

Dyma ddod i adnabod Rolant ychydig yn well.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Syrcas epig yn Llydaw rhywbryd yn y '70au.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Cader Idris, cerdded y llethrau a chyrraedd y copa yn rhoi’r byd yn ei le.

Ffynhonnell y llun, Rolant Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Meirw Byw yn nofel gyntaf Rolant

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Chwarae samba ar Bont y Werddu wedi noson yn y George III cyn mynd i Ddenmarc.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dyfeisgar, petrusgar, dryslyd.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Osi y mab a’i ffrind Tom yn canfod sut oedd gitâr drydan yn gweithio a troi volume yr amp i’r top – golwg o ddireidi syfrdan arnynt.

Ffynhonnell y llun, Rolant Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Dyma deulu Rolant ar gopa'r Gader, un o'i hoff luniau.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Chwarae Scrabble gyda fy narpar rhieni yng nghyfraith a’r unig air oedd gen i yn un budr iawn.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Pennod Forks o gyfres deledu The Bear wrth i Richie ganu yn y car.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bach o deyrn yn y gegin.

Ffynhonnell y llun, Rolant Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Dyma linell stori ar fwrdd Rolant yn ei gartref gyda'r nofel wedi'i chynllunio'n ofalus

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Ffilm – Underground gan Emir Kusturica. Stori epic, digri, trist a gwleidyddol wedi ei hadrodd yn boncyrs.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Fyddai peint mewn gardd gwrw efo Douglas Adams yn braf.

Disgrifiad o’r llun,

Douglas Adams oedd yn gyfrifol am greu The Hitchhiker's Guide to the Galaxy

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fues i’n cynhyrchu rhaglen radio Daneg wythnosol am gyfnod, heb fod yn deall llawer o’r iaith.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Coginio pryd da i deulu a ffrindiau, gwylio’r machlud efo gwydred o Samur Champigny.

Ffynhonnell y llun, Rolant Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Rolant ar wyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Y teulu ar gopa’r Gader.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fyswn i wrth fy modd yn bod yn filidowcar am ddiwrnod.

Pynciau cysylltiedig