Siaradwr Cymraeg o Essex â rhediad o 2,500 ar Duolingo

Keoni D'SouzaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhan o fy routine erbyn hyn, fel brwsio fy nannedd bron"

  • Cyhoeddwyd

Mae siaradwr Cymraeg newydd o Essex ar rediad o bron i 2,500 diwrnod ar yr ap ieithoedd Duolingo.

Fe ddechreuodd Keoni D'Souza, 26, ddysgu Cymraeg yn ôl yn 2016 pan oedd yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Ers graddio o'r brifysgol nid yw Keoni wedi byw yng Nghymru ond mae wedi parhau i ddysgu Cymraeg drwy gwrs Coleg Gwent, ac hefyd drwy'r ap poblogaidd.

Bob nos ers 2,484 diwrnod - bron saith mlynedd - mae wedi cwblhau gweithgareddau a gwersi Cymraeg ar ei ffôn symudol.

"Mae'n rhan o fy routine erbyn hyn, fel brwsio fy nannedd bron," meddai Keoni.

"Roeddwn yn teimlo ei fod yn syniad da i ddysgu iaith y wlad pan o'n i'n brifysgol. Roedd Cymru mor groesawgar i mi ro'n i'n teimlo fy mod i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Mae cyfarfod pobl ifanc ar y cyrsiau preswyl yn enwedig yn grêt," meddai Keoni

Gyda mam o'r Pilipinas a thad o dras Kenya a Goa, mae ieithoedd wastad wedi bod o ddiddordeb i Keoni.

"Mae fy mam yn ddwyieithog, mae hi o'r Pilipinas a'n siarad Tagalog ac mae hynny wastad wedi ysbrydoli fy niddordeb mewn ieithoedd a'r syniad o fod yn amlieithog," meddai Keoni.

O Essex yn wreiddiol a'n byw yn Llundain ar hyn o bryd, mae Keoni yn parhau i fwynhau dysgu Cymraeg.

"Does gennai'm gymaint o gyfleoedd i siarad Cymraeg lle ydw i yn Llundain ond dwi'n mynychu cyrsiau ar-lein ac yn bersonol yn rheolaidd.

"Mae cyfarfod pobl ifanc ar y cyrsiau preswyl yn enwedig yn grêt. Mae'n help mawr i fod mewn sefyllfaoedd fel 'na i allu sgwrsio gyda phobl yn yr iaith," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Keoni wedi cwblhau gweithgareddau Cymraeg ar Duolingo bob diwrnod am bron i saith mlynedd

Mae cadw aderyn bach Duolingo yn hapus am dros chwe blynedd wedi bod yn her, meddai Keoni, ac mae wedi dod yn agos iawn ar adegau i golli ei rediad campus.

"I ddweud y gwir mae Duolingo wedi troi yn ychydig bach o chore erbyn hyn - dwi just eisiau parhau'r streak!

"Rydw i wedi dod yn agos i anghofio amdano sawl gwaith. Mae 'na adegau lle mae hi di bod yn 23:50 a dwi'n cofio i wneud o - dwi methu stopio nawr!"

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Keoni'n gwneud cwrs Cymraeg drwy Goleg Gwent

Dywedodd Keoni ei fod yn siaradwr lefel uwch erbyn hyn drwy'i gwrs yng Ngholeg Gwent ac er bod apiau fel Duolingo yn "ddefnyddiol iawn", dosbarthiadau Coleg Gwent a Phrifysgol Abertawe yn y gorffennol sydd yn gyfrifol am ei gynnydd fel siaradwr yn bennaf.

"Mi fyswn i'n argymell unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg i wneud cyrsiau a dosbarthiadau, ond mae Duolingo yn helpu i gadw'r iaith ar flaen dy feddwl rhwng hynna, yn enwedig os does dim llawer o gyfleoedd i siarad yr iaith yn dy fywyd o ddydd i ddydd."

Mae Keoni'n bwriadu parhau â'i rediad am gyn hired ag sy'n bosib. Mae'n gobeithio hefyd bydd mwy o gyfleoedd iddo yn y dyfodol i ddefnyddio'i Gymraeg yn amlach.

"Mae'n gymaint o hwyl. Mae siarad gyda phobl yn y Gymraeg yn rhoi gwên ar fy wyneb, dwi'n gwenu bob tro dwi'n siarad yr iaith - gobeithio fyddai'n gallu ei wneud o'n fwy aml yn y dyfodol," meddai.