Arestio tri pherson ifanc ar amheuaeth o geisio llofruddio

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Caerllion am tua 00:55 fore Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae tri pherson ifanc wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad yng Nghasnewydd dros y penwythnos.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar Ffordd Caerllion yn y ddinas am tua 00:55 fore Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod person wedi cael ei anafu.
Cafodd dyn 36 oed ei gludo i'r ysbyty ond mae bellach wedi ei ryddhau.
Fore Mercher cafodd dau ddyn 19 oed ac un bachgen 17 oed eu harestio yng Nghasnewydd ar amheuaeth o geisio llofruddio ac achosi difrod troseddol ac mae'r tri yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Dywedodd y ditectif uwch-arolygydd Philip O'Connell fod achosion o drais yn gallu peri gofid, ond pwysleisiodd fod troseddau fel hyn yn brin iawn yn yr ardal.
"Hoffwn ddiolch i'r gymunedol leol am eu cefnogaeth a'u cymorth wrth i'r ymchwiliad barhau," meddai.
"Rydyn ni'n awyddus i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau fideo all fod o gymorth i'r ymchwiliad i gysylltu â ni."