Covid-19: 'Ofnus gweld cleifion yn marw bob shifft'
- Cyhoeddwyd
Fel meddyg ymgynghorol yn gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant - un o'r ysbytai gafodd ei daro waethaf gan Covid-19 - mae atgofion poenus y pandemig yn dal i gael effaith ar Dr Dai Samuel.
"O'n ni'n gweld tri neu bedwar claf yn marw yn ystod shifft," meddai.
"A dechrau meddwl wedyn 'pryd ma' hyn yn mynd i orffen, neu ydy e'n mynd i orffen? A fydd y system yn gallu copio?'
"O'dd e'n deimlad o bryder ac yn deimlad o ofn."
O ganlyniad, mae'n dadlau fod effaith y cyfnod ar staff wedi bod yn sylweddol.
"Ar y dechre o'dd e'n fine, o'ch chi jyst yn 'neud e," meddai.
"Ond yn ystod yr ail don ac yn sicr y drydedd don o'n ni gyd wedi blino.
"O'ch chi'n gweld pobl o'dd yn arfer dod i'r gwaith gyda gwên ar ei wyneb bob dydd yn edrych yn drist neu wedi torri."
'Newid y model a'n ffordd ni o weithio'
Ers y pandemig mae Dr Samuel yn dadlau nad oes llawer o gyfle wedi bod i adfer na gorffwys, yn rhannol oherwydd yr her o geisio gostwng rhestrau aros a dyfodd yn aruthrol yn ystod cyfnod Covid.
"Ar ôl i'r pandemig orffen ma' nifer o bobl wedi gadael yr NHS neu'n mynd bant gyda burnout neu stress," meddai.
"Mae'r cyhoedd hefyd nawr moyn eu profion yn gyflymach, moyn eu gwasanaethau wedi ailddechrau, a'r sialens nawr yw sut ma' neud 'ny?
"Ydy e'n ffit i bwrpas i 'neud beth 'naethon ni cyn y pandemig, neu os rhaid newid y model a'n ffordd ni o weithio?"
Bydd effaith y pandemig ar staff fel Dr Dai Samuel a'r gwasanaeth iechyd yn ehangach dan y chwyddwydr pan fydd ymchwiliad Covid y DU yn ailddechrau yn Llundain ddydd Llun.
Fe fydd Modiwl 3 yr ymchwiliad yn edrych yn benodol ar effaith Covid-19 ar y gwasanaeth iechyd ym mhedair gwlad y DU, gan archwilio, ymhlith pethau eraill:
Effaith Covid-19 ar brofiad pobl o ofal iechyd;
Penderfyniadau ac arweinyddiaeth;
Lefelau staffio a chapasiti gofal critigol, a sut cafodd ysbytai maes eu defnyddio;
Oedi mewn triniaeth, rhestrau aros a rhyddhau cleifion o'r ysbyty;
Effaith y pandemig ar feddygon, nyrsys a staff gofal iechyd eraill, gan gynnwys ar y rhai dan hyfforddiant a grwpiau penodol (e.e. unigolion o gefndiroedd ethnig);
Mesurau i reoli heintiau yn cynnwys PPE;
Materion yn ymwneud cyflyrau ôl-Covid (gan gynnwys Covid hir).
Mae grwpiau yng Nghymru sy'n cynrychioli teuluoedd gollodd anwyliaid yn mynnu - yn absenoldeb ymchwiliad Covid penodol Cymreig - y bydd angen i'r ymchwiliad edrych yn fanwl ar yr hyn ddigwyddodd yng Nghymru.
"Mae'r modiwl iechyd hwn mor bwysig i'n teuluoedd - dyma'r unig fecanwaith sydd gennym ni o ddarganfod beth ddigwyddodd," meddai Anna-Louise Marsh-Rees - arweinydd Covid Bereaved Families for Justice Cymru.
"Rydym eisoes yn gwybod, gyda'r paratoi cywir, y gellid bod wedi atal marwolaethau.
"Ym Modiwl 3 mae'n rhaid i ni ddarganfod pam na fyddai meddygon teulu yng Nghymru yn derbyn galwadau na gweld cleifion, pam nad oedd neb yn gwybod yr holl symptomau Covid, pam y cafodd ein hanwyliaid eu rhoi ar wardiau llawn Covid a pham, hyd yn oed pan oedd PPE ar gael, nid y PPE cywir oedd e.
"Yr hyn sydd bwysicaf i ni bod Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn atebol am yr hyn ddigwyddodd."
Yn y cyfamser mae Cydffederasiwn GIG Cymru, sy'n cynrychioli byrddau iechyd, yn dadlau bod ôl-effeithiau'r pandemig yn parhau.
"Cafodd y pandemig Covid-19 effaith enfawr ar bawb, gan gynnwys gwasanaethau iechyd a gofal, ac mae'n dal i wneud," meddai Darren Hughes, cyfarwyddwr y conffederasiwn.
"Yr effaith fwyaf amlwg yw'r twf mewn rhestrau aros, oherwydd yr oedi mewn gofal nad oedd yn ofal brys yn ystod cyfnodau gwaethaf y pandemig.
"Cafodd y pandemig effaith enfawr ar staff hefyd, a oedd yn gweithredu dan bwysau parhaus am gyfnodau hir.
"Mae hyn nid yn unig yn achosi blinder ond gall gael effaith hirdymor ar ysbryd staff a morâl.
"Ond mae'r system yn dal i weithio'n eithriadol o galed i ddal i fyny... yn rheoli mwy a mwy o alw mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol."
Ailfodelu gwasanaethau?
Nôl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae Dr Dai Samuel yn cynnig rhai cwestiynau penodol y byddai ef am i'r ymchwiliad eu hystyried.
"Sut 'da ni’n edrych ar ôl ein staff o ran diogelwch, o ran yr oriau ma' nhw’n gweithio, o ran y system maen nhw’n gweithio mewn, achos do'dd pobl ddim yn hapus 'da’r NHS cyn y pandemig," meddai.
"Sut y'n ni’n mynd i gynllunio ac ymarfer ar gyfer y pandemig nesa', achos 'da ni ddim yn cael unrhyw fath o hyfforddiant ar sut i fod mewn pandemig.
"A sut 'da ni’n mynd i ailfodelu gwasanaethau? Dyna’r math o beth fi moyn clywed - sut byddwn ni’n neud hwnna’n wahanol yn y dyfodol.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd27 Chwefror