Ffarwelio eleni â swyddfa BBC Abertawe wedi 88 mlynedd

- Cyhoeddwyd
Bydd yr adeilad sydd wedi bod yn gartref i'r BBC yn Abertawe ers bron i 90 mlynedd yn cau ei drysau am y tro olaf eleni.
Dechreuodd darlledu gan y BBC yng Nghymru yng Nghaerdydd yn 1923, gyda'r darllediad cyntaf yn dod o Abertawe blwyddyn yn ddiweddarach.
Agorwyd yr adeilad yma yn Abertawe yn 1937.
Mae llawer o'r stafelloedd a'r offer yno'n dyddio nôl i'r 1950au, pan gafodd yr adeilad ei ail-wneud yn dilyn dinistr bomiau'r Natsïaid.
Does dim cyhoeddiad wedi bod am unrhyw newidiadau i strwythur allanol yr adeilad fel rhan o'r newidiadau.
Dyma ambell ddelwedd o'r adeilad ar Heol Alecsandra dros y blynyddoedd.

Yr adeilad yn 1941 wedi i'r difrod o'r bomiau gan y Natsïaid ddod i'r amlwg - y llawr uchaf wedi diflannu

Y difrod mawr i Stiwdio Rhif 1 y gerddorfa

Y niwed i'r adeilad o'r stryd sy'n codi wrth ochr yr adeilad

Y stiwdio ddrama wedi'r bomio a thân

Yn 1952 fe agorwydd yr adeilad eto wedi iddo gael ei adnewyddu

Darllediad cynnar o Abertawe. Yn y llun yma mae'r Parchedig G O Williams, Saunders Lewis, yr Athro Brinley Thomas ac Aneirin Talfan Davies

Stiwdio 1 yn 1952 wedi'r adnewyddu

Stiwdio rhif 1 yn 1952, gyda'r ddau biano â meicroffon uwch eu pennau

Dathlu 60 mlwyddiant y BBC yn Abertawe, yn 1984.
Wyn Calvin yn tywallt champagne. Yn y rhes gefn ar y chwith mae Sulwyn Thomas, gydag Anita Morgan un o'r dde yn y rhes gefn.
Mae'r rhes flaen yn cynnwys Wyn Calvin a John Darran.

Richard Rees yn darlledu ar Radio Cymru

Ray Gravell yn dangos i gadeirydd y BBC ar y pryd, Marmaduke Hussey, sut mae darlledu (1990)

Maldwyn 'Mal' Pope wrth ei ddesg yn y 90au cynnar

Rhai o ddarlledwyr a gohebwyr Radio Wales yn 1993; Steve Dewitt, Owen Money, Gaina Morgan, Roy Noble, Anita Morgan, Lionel Kellaway a Mal Pope

Arwydd Cymraeg a oedd ger y fynedfa i'r adeilad

Garry Owen yn darllen y Newyddion yn fyw o Abertawe.

Cyntedd yr adeilad tan yn gymharol ddiweddar

Hen stiwdio radio a oedd yn cael ei ddefnyddio gan Radio Cymru a Radio Wales

Ystafell newyddion BBC Abertawe

Desg darlledu arall a oedd yn y stiwdio radio
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Mae gan y BBC gysylltiad hir a thraddodiad balch o ddarlledu o Abertawe gan ddathlu can mlynedd ers y darllediad cyntaf ym mis Rhagfyr y llynedd.
"Mae hyn yn parhau, gyda thimau newyddion wedi'u lleoli yn y ddinas a Neuadd y Brangwyn yn gartref i nifer o gyngherddau Cerddorfa Genedlaethol y BBC.
"O fis nesaf ymlaen, bydd canolfan weithredol y BBC yn symud o Heol Alexandra i ganolfan Technium 2 ac edrychwn ymlaen at barhau ein presenoldeb yn y ddinas."
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd24 Medi 2020
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2020