Farage: 'Rhy gynnar i bolisïau etholiad y Senedd'

FarageFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nigel Farage: "Mae'n hanner ffordd drwy fis Hydref. Mae'r etholiadau yn bell iawn i ffwrdd."

  • Cyhoeddwyd

Mae Nigel Farage yn dweud ei bod yn "rhy gynnar" i ateb cwestiynau am bolisïau etholiad y Senedd, ond mae'n addo y "bydd y sefyllfa yn wahanol iawn i'r chwarter canrif diwethaf".

Mae arweinydd Reform UK wedi bod yn siarad â rhaglen BBC Politics Wales fel rhan o gyfres o gyfweliadau ag arweinwyr plaid ar ddechrau tymor y Senedd.

Awgrymodd Mr Farage bod gan ei blaid gynlluniau i newid treth incwm, a dywedodd y byddent yn "defnyddio pob pŵer datganoledig y gallwn ni" i wneud bywyd yn haws i fusnesau.

Mae Reform UK, ochr yn ochr â Phlaid Cymru, yn perfformio'n dda mewn rhai arolygon barn diweddar ac mae nhw'n gobeithio trechu Llafur Cymru.

Mae Reform UK wedi cael eu crybwyll mewn llawer o anerchiadau gwleidyddol gan bleidiau eraill yn ystod tymor y cynhadleddau gwleidyddol diweddar gyda Phrif Weinidog Llafur Cymru yn cydnabod bod ei phlaid yn wynebu "brwydr fawr".

Gyda siawns realistig y gallai Reform fod y blaid fwyaf wedi etholiad y Senedd fis Mai nesaf, mae'r pwysau'n cynyddu ar y blaid i amlinellu mwy o'r polisïau a allai ddiffinio Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Reform.

Wrth siarad yr wythnos hon, dywedodd Nigel Farage: "Mae'n hanner ffordd drwy fis Hydref. Mae'r etholiadau yn bell iawn i ffwrdd."

Cysylltwch â ni

Dy Lais, Dy Bleidlais

Wrth siarad â BBC Cymru doedd Mr Farage ddim yn gwadu ei fod yn defnyddio Cymru fel "theatr wleidyddol i fynd ar y blaen yn San Steffan".

"Mewn gwirionedd," meddai, "mae pob etholiad rwy'n ymladd yn theatr wleidyddol i fynd ar y blaen yn San Steffan."

Fodd bynnag, pwysleisiodd bod ei blaid yn cymryd etholiadau'r Senedd o ddifri.

Dywedodd bod ganddo dîm "llawn amser" yn gweithio ar bolisïau a'i fod wedi bod yn cwrdd â chyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.

"Gadewch i mi addo rhywbeth i chi, rydym yn cymryd hyn yn hynod o ddifrifol ond mae canol mis Hydref yn rhy gynnar i roi atebion i'r holl bethau hyn.

"Yr unig beth y gallaf ei addo i chi yw y bydd pethau yn wahanol iawn i'r hyn sydd wedi bod yn y chwarter canrif diwethaf."

Wrth gyfeirio at y gwasanaeth iechyd, dywedodd y byddai ei blaid yn dod â "meddwl ffres"ac y clywn ni "fwy am hynny" yn y dyfodol.

O ran pwerau treth, awgrymodd y dylen ni "wylio'r gofod hwn".

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn ystyried amrywio bandiau treth incwm, rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, dywedodd "rydyn ni'n meddwl mewn pob math o ffyrdd sydd, rwy'n credu, yn mynd i wneud hi'n ymgyrch ddiddorol iawn".

O ran busnes, dywedodd: 'Rydyn ni eisiau defnyddio pob pŵer datganoledig y gallwn ni i wneud bywydau busnesau bach a busnesau mwy yn haws yng Nghymru.

"Dyna beth mae'n rhaid i ni ei ddylunio ar gyfer ein maniffesto fis Mai er mwyn dweud ein bod ni, mewn gwirionedd, [yn sefyll] ochr yn ochr â phobl sy'n gweithio," meddai.

Farage a NathanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Farage a Nathan Gill yn ymgyrchu gyda'i gilydd ar ran Plaid Brexit ym Merthyr Tudful yn 2019

Mae cwestiynau wedi codi am berthynas Nigel Farage gyda chyn-arweinydd Reform yng Nghymru, Nathan Gill, sydd wedi pledio'n euog i dderbyn llwgrwobrwyon i wneud datganiadau o blaid Rwsia tra'n Aelod etholedig o Senedd Ewrop.

Wedi iddo gael ei holi am ei berthynas â Gill, dywedodd Nigel Farage: "Gall pobl eich siomi, dyna sy'n digwydd, ond yn ei achos ef, roedd yn andros o sioc.

"Mae'n mynd i gael cyfnod hwy o garchar ac mae'n ei haeddu," meddai.

Mae Nigel Farage yn dweud nad oedd ganddo syniad, ond ychwanegodd "yr unig beth oedd yn rhyfedd wrth edrych yn ôl oedd y daith a wnaeth Nathan Gill i Wcráin".

Dywedodd Nigel Farage ei fod wedi dweud wrth Gill i beidio mynd oherwydd ei bod "yn un o'r gwledydd mwyaf llygredig ar y ddaear" ond mi aeth Nathan Gill beth bynnag.

Wrth ateb a oedd ganddo amheuon dywedodd nad oedd: "Oeddwn i'n meddwl mai dim ond gwleidydd yn chwilio am drip am ddim oedd o."

Gwadodd ei fod wedi clywed unrhyw un o'r areithiau o blaid Rwsia a wnaeth Gill yn Senedd Ewrop a hefyd ei fod wedi dewis anwybyddu gweithgareddau Gill.

"Rwyf wedi rhedeg cwmnïau am 30 mlynedd. Rwyf wedi cyflogi cannoedd o bobl dros y blynyddoedd mewn gwahanol swyddi.

"Mewn nifer o achosion, dw i wedi cyflogi llawer iawn o bobl ifanc ac wedi rhoi cyfle i bobl, ac maen nhw wedi mynd ymlaen i lwyddo mewn bywyd a dw i'n falch o hynny.

"Ydw i wedi gwneud ambell benodiad anghywir? Do. Rydyn ni gyd wedi," atebodd.

Mae modd gweld y cyfweliad yn llawn a chyfweliadau holl arweinwyr y pleidiau Cymreig eraill, ar BBC iPlayer

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol