Aduniad 'boncyrs' dwy fu'n chwarae pêl-droed dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Pan ddaeth wyneb newydd i sesiwn ymarfer tîm pêl-droed cerdded yng Nghaerffili yn ddiweddar, roedd Colleen O’Connor yn gwybod yn syth bod rhywbeth cyfarwydd amdani.
Ond dim ond wedi iddi siarad â Mandy Beech yn y dafarn yn ddiweddarach y sylweddolon nhw eu bod nhw’n arfer rhannu ystafell newid – a hynny dros 40 mlynedd yn ôl, i dîm Cymru.
Roedden nhw ymhlith y genhedlaeth dorrodd dir newydd wrth gynrychioli eu gwlad wedi i’r gwaharddiad ar bêl-droed merched gael ei godi yn 1970, ond cyn iddyn nhw gael eu cydnabod yn swyddogol.
Mae’r ddwy, sydd bellach yn eu 60au, nawr wedi atgyfodi eu cariad at y gêm drwy chwarae pêl-droed cerdded.
- Cyhoeddwyd30 Hydref
- Cyhoeddwyd19 Medi
- Cyhoeddwyd4 Hydref
“Naethon ni 'neud e 44 mlynedd yn ôl, ac edrychwch arnon ni nawr, dal wrthi,” meddai Colleen. “Mae gobaith i ni i gyd!”
Yn ferched ifanc yn yr 1970au, roedd Mandy a Colleen ymhlith y genhedlaeth gyntaf o ferched gafodd yr hawl i chwarae pêl-droed, ac fe ymunon nhw â thîm yng Nghasnewydd.
Rhwng 1980 ac 1981 fe wnaeth y ddwy ymddangos lond llaw o weithiau i Gymru hyd yn oed, gyda Colleen dal yn ei harddegau a Mandy yn ei hugeiniau cynnar.
“Roedd e’n wych,” meddai Mandy, sydd bellach yn 65.
“Er mai torf fechan oedd e, roedd e’n achlysur mawr, a fi’n cofio ni’n gorfod benthyg ein crysau gan Abertawe.
"Roedd e’n gyfnod gwallgof ond fe wnaethon ni fwynhau’n fawr.”
Dynion yn 'edrych lawr arnon ni'
Ar y pryd doedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim yn cydnabod y tîm yn swyddogol, felly roedd rhaid i’r chwaraewyr dalu o’u pocedi eu hunain i deithio.
“Bydde ni’n ennill cyflog ac roedd e i gyd wedi mynd erbyn dydd Gwener, dyna’r ffordd roedd pethau,” meddai Colleen, 62.
“Ond os chi’n caru’r gamp dyna 'dych chi’n ei wneud.”
Bu’n rhaid i’r menywod hefyd frwydro yn erbyn agweddau cymdeithasol y cyfnod, yn enwedig ymhlith dynion.
“Roedden ni’n ymarfer ac yn chwarae o ddifrif, gallen ni gicio pêl cystal ag unrhyw un,” meddai Mandy.
“Ond roedd 'na deimlad bod nhw’n edrych lawr arnon ni. Roedden nhw’n chwerthin am ein pennau ychydig, ac nes i golli tamed bach o galon. Nes i ddim chwarae pêl-droed wedyn.”
Ar ôl cael plant, fe roddodd Mandy a Colleen y gorau i bêl-droed am ddegawdau – nes iddyn nhw gwrdd ar hap wrth ymuno â thîm pêl-droed cerdded, gafodd ei sefydlu yng Nghaerffili ddwy flynedd yn ôl.
“Daeth rhywun newydd mewn a nes i feddwl ‘fi’n nabod hon o rywle’,” meddai Colleen.
“Naeth neb ddweud unrhyw beth nes y dafarn wedyn. Nes i ofyn iddi ‘o le ti’n dod Mand?’
“‘O’n i’n arfer chwarae i Ferched Casnewydd, meddai hi, gyda Wendy a Colleen’. A nes i ddweud ‘ie, fi yw honna!”
Mae’r ddwy nawr yn ymarfer yn wythnosol gyda CPD Castell Caerffili, ac hyd yn oed wedi chwarae dros dîm cerdded Cymru dros 60 – unwaith eto, yn answyddogol am nawr.
“Mae 44 mlynedd yn amser mor hir,” meddai Mandy. “Ond pan chi’n sylweddoli eich bod chi’n chwarae i’r un tîm eto, mae’n boncyrs.”
I Bethan Bushen, pennaeth pêl-droed merched y clwb, mae siwrne’r ddwy yn “ysbrydoledig”.
“Yr hwyl yna yw e, mae’r merched yn troi lan a chael amser grêt,” meddai.
“’Dyn ni eisiau creu’r llwybr yna lle gallwch chi fod yn 40, 50, 60, 70, 80+, a dal mwynhau’r gêm, aros yn ffit ac yn iach, neu jyst mwynhau’r ochr gymdeithasol.
“Dyw e ddim jyst am bod yn gystadleuol ac ennill gemau, mae e am fwynhau a gwneud ffrindiau.”
Derbyn cap rhyngwladol 'yn dod â deigryn i’r llygad'
Yn gynharach yn y mis, roedd Mandy a Colleen ymhlith 47 o fenywod gafodd gapiau arbennig am gynrychioli Cymru rhwng 1973 ac 1993, pan ddaeth y tîm dan adain CBDC am y tro cyntaf.
Doedd Colleen “byth yn meddwl fyddai’r diwrnod yn dod”, ond gall nawr rannu ei chydnabyddiaeth gyda’i 12 o wyrion a wyresau.
“Roeddwn i’n meddwl fydden i yn y bedd cyn cael y cap yna,” meddai.
“Roedd e’n fraint mynd lan, nes i fwynhau e, daeth e â deigryn i’r llygad. I weld yr holl ferched oedd wedi bod drwy’r un peth, roedd e’n wych.”
Bydd y ddwy nawr yn cadw llygad ar y genhedlaeth nesaf, wrth i dîm Rhian Wilkinson daclo gemau ail gyfle hollbwysig Euro 2025 – allai olygu cyrraedd rowndiau terfynol prif dwrnament am y tro cyntaf yn eu hanes.
“I weld nhw nawr, mae’n wych,” meddai Mandy. “Dylai hyn wedi dechrau flynyddoedd yn ôl, ond fi mor falch drostyn nhw.
“Tasen i ond yn chwarae pêl-droed yn yr oes yma! Achos nawr mae e’n ffynnu. Mae cymaint yn well, ac agweddau pobl wedi newid hefyd.”