Datgelu dyluniad cerflun i seren Monty Python yn y gogledd

Bydd y cerflun yn cael ei ddadorchuddio ar 25 Ebrill 2026 gan deulu a chyfeillion Terry Jones o'r byd comedi
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymgyrchwyr wnaeth lwyddo i godi arian i greu cerflun efydd i gofio un o sêr Monty Python, wedi datgelu dyluniad o'r hyn fydd yn cael ei osod ar bromenâd Bae Colwyn.
Cafodd lluniau o'r dyluniad eu rhyddhau ar y cyd â'r cerflunydd ddydd Iau.
Bydd y cerflun o'r actor, Terry Jones, yn cael ei osod a'i ddadorchuddio ar y promenâd ym mis Ebrill 2026 ym Mae Colwyn - ei dref enedigol.
Yn 77 oed, bu farw Terry Jones o fath prin o ddementia yn 2020.
Llwyddodd apêl codi arian Python ar y Prom i gasglu £120,000 mewn llai na chwe mis a derbyn cefnogaeth enwogion fel Steve Coogan ac Emma Thompson.

Nick Elphick ydy'r cerflunydd
Mae'r cerflun yn portreadu Terry yn ei rôl fel y Nude Organist - yn noeth ar wahân i dei yn fflapio a gwallt gwyllt, yn gwenu.
Dywedodd ymgyrch Python ar y Prom: "Ar ôl ymgynghori â'r Pythoniaid, grwpiau lleol, teulu Terry a'r cerflunydd Nick Elphick, cytunwyd i bortreadu Terry fel un o'i gymeriadau eiconig - ffordd anarchaidd addas o gofio talent mor anghonfensiynol."
Ychwanegodd cyfaill oes Terry, Syr Michael Palin: "Roedd Terry wastad yn mynnu gwneud ei stunts ei hun, a dwi'n meddwl mai eistedd yn noeth lymun (oni bai am dei) ar y prom ym Mae Colwyn, ym mhob tywydd, ydy'r deyrnged orau posib i'r hyn yr oedd yn fodlon ei wneud ar gyfer comedi."

Cafodd yr ymgyrch ei lansio fis Medi 2024 gan Michael Palin a Terry Gilliam

Dywedodd Syr Michael Palin ei fod yn gobeithio y daw "pen-ôl hynod hael Terry yn symbol o'r dref yr oedd yn ei charu cymaint"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
  
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2020
  
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
 