'Toriadau i ganolfannau hamdden yn cynyddu'r pwysau ar y GIG'

Rae Carpenter
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cau canolfannau hamdden yn arwain at fwy o gostau yn y tymor hir, meddai Rae Carpenter

  • Cyhoeddwyd

Mae arbenigwr iechyd wedi rhybuddio y bydd toriadau gan gynghorau i ganolfannau hamdden yn cynyddu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Yn ôl Rae Carpenter, sydd hefyd yn hyfforddwr personol, mae angen ailystyried penderfyniadau o'r fath.

Mae Cyngor Caerffili yn edrych ar gau canolfannau hamdden yn y sir wrth geisio gwneud arbedion ariannol o £21m yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn gynharach y mis hwn, fe rybuddiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod cynnydd yn nhreth y cyngor a thoriadau i wasanaethau yn debygol.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod yna gynnydd wedi bod yng nghyllideb cynghorau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Yng Nghaerffili, mae'r cyngor yn ymgynghori ar gynlluniau i gau tair canolfan hamdden yn y sir - Cefn Fforest, Bedwas a Tredegar Newydd.

Fe fyddai hynny'n arbed dros £1,000,000 bob blwyddyn, meddan nhw.

"Mae'r gwasanaeth iechyd o dan bwysau… yn fy marn i, mae wedi torri yn barod," meddai Rae Carpenter, oedd yn un o gyflwynwyr rhaglen Ffit Cymru S4C.

"Os nad ydyn ni'n helpu pobl i edrych ar ôl eu hiechyd… yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol trwy wneud yn siŵr fod y canolfannau yma ar gael, fi'n credu yn yr hir dymor y bydd 'na fwy o bwysau oherwydd gordewdra, ac oherwydd problemau iechyd meddwl ar y gwasanaeth iechyd."

Matt Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen cau rhai cyfleusterau hen yng Nghymru, yn ôl Matt Williams

Dywedodd Matt Williams o Gymdeithas Chwaraeon Cymru fod rhai o gyfleusterau Cymru yn hen a bod rhaid eu cau.

"Ond heb gael replacement yn y gymuned fe fydd yna effaith ar [faint sydd yn] cymryd rhan," meddai.

'Mwy o ganolfannau nag unrhyw sir arall'

Mae Cyngor Caerffili yn dweud bod ganddyn nhw "fwy o ganolfannau hamdden nag unrhyw sir arall yng Nghymru" ac yn ymgynghori ar y mater.

O dan eu strategaeth chwaraeon deng mlynedd, meddan nhw, fe fydd bron pob cymuned yn y sir yn byw o fewn pum milltir i ganolfan hamdden.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn 2025/26, bydd awdurdodau lleol yn derbyn £6.1b mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar wasanaethau allweddol.

"Mae hynny'n gynnydd o 4.3% - neu £253m - o gymharu â'r flwyddyn hon.

"Bydd ein cyllideb derfynol arfaethedig, gan gynnwys y setliad terfynol i lywodraeth leol, yn cael ei gosod ym mis Chwefror."