Rhybudd am ganlyniadau difrifol 'diffyg cyllid' cynghorau

Rhai o wasanaethau cynghorau
  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd cyngor wedi rhybuddio am gynnydd mawr yn nhreth y cyngor, diswyddiadau gorfodol a thoriadau i wasanaethau oherwydd diffyg cyllid.

Dywedodd Mark Pritchard, arweinydd cyngor Wrecsam, fod ei awdurdod yn trafod codiad treth y cyngor o rhwng 9.9% a 15%, a rhybuddiodd hefyd nad oedd y bygythiad o gyngor yng Nghymru yn mynd yn fethdalwr wedi diflannu.

Wrth ymddangos gerbron pwyllgor llywodraeth leol Senedd Cymru, gofynnodd a oedd Llywodraeth Cymru yn creu amgylchiadau i gynghorau fethu.

Cafodd y 22 awdurdod lleol hwb ariannol o £253m gan weinidogion Cymru yn y gyllideb ddrafft fis diwethaf, ond dywedodd cynghorwyr wrth y pwyllgor nad oedd yn ddigon.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eisoes wedi dweud bod bwlch ariannu o £560m.

Dywedodd Mark Pritchard: "Fe fydd yna doriadau i wasanaethau, diswyddiadau a threth y cyngor uwch" ac y gallai treth y cyngor Wrecsam "fod rhwng 9.9% a 15%".

Dywedodd wrth y pwyllgor fod y setliad gan Lywodraeth Cymru hefyd "yn welliant... ond nid yw'n ddigon o arian oherwydd mae'r gofynion yn fwy na'r gwasanaethau".

"Derbyniodd Llywodraeth Cymru £1.1bn [ychwanegol] gan San Steffan a dywedwyd wrthym ein bod yn flaenoriaeth a'n bod yn mynd i gael setliad mwy."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i wneud sylw.

Disgrifiad o’r llun,

"Nid yw'r setliad yn ddigonol" medd Gary Pritchard, arweinydd Cyngor Ynys Môn

Cyn y pwyllgor, wrth siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, Gary Pritchard: "Mae'r setliad yn llawer iawn gwell na'r hyn nathon ni ragweld pan oeddan ni'n dechrau gweithio ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesa' 'ma, ond dydi o ddim yn ddigon i sicrhau'r gwasanaethau 'da ni angen eu cyflawni i drigolion yr ynys ac mae hynna'n wir i bob sir ledled Cymru.

"Mi nath Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru arolwg o'r holl awdurdodau lleol a'r farn oedd bod angen setliad o 9% er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu aros yn llonydd - dal i ddarparu'r un gwasanaethau flwyddyn nesa ag ydan ni'n darparu flwyddyn yma. Mae'r setliad ar gyfartaledd yn 4.3%, felly hanner hynny.

"Mae rhai siroedd - Môn yn eu plith - wedi derbyn llai na hanner, felly'r neges gyffredinol gen i'n sicr ydi nad ydi'r setliad yn ddigonol - er ein bod ni'n croesawu'r arian ychwanegol."

'Gwell nag y gellid fod wedi'i ddisgwyl'

Awgrymodd arbenigwyr annibynnol a ymddangosodd o flaen pwyllgor cyllid y Senedd fod y bygythiad o fethdaliad cynghorau wedi'i osgoi oherwydd y cynnydd mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r cynnydd arfaethedig yn nhreth y cyngor.

Dywedodd Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod cynnydd o 3.1% mewn cyllid dros ddwy flynedd yn "gynnydd sylweddol o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol".

"Pan edrychwn ar y darlun ar draws Cymru mae hwn yn setliad sy'n llawer gwell nag y gellid fod wedi'i ddisgwyl chwe mis yn ôl," meddai.

Clywodd y pwyllgor hefyd am bryder ynghylch effaith y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a gyhoeddwyd yr hydref diwethaf gan lywodraeth y DU.

Wrth ymateb i gwestiwn gan AS Plaid Cymru Sian Gwenllian ynghylch y £109m ychwanegol i gynghorau i ddelio â'r cynnydd, dywedodd cynghorwyr fod ansicrwydd a fyddai'n talu'r costau'n llawn.

Mae'n edrych yn annhebygol hefyd y bydd arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth y DU i dalu am y cynnydd mewn yswiriant gwladol ar gyfer gweithwyr nad ydynt yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y sector cyhoeddus, ond sydd serch hynny wedi'u contractio gan gynghorau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus fel gofal cymdeithasol.

Mae angen o hyd i weinidogion Cymru daro bargen gyda gwrthblaid er mwyn i'r gyllideb basio pleidlais yn y Senedd, oherwydd dim ond hanner y seddi sydd gan Lafur.

Mae disgwyl i'r bleidlais gael ei chynnal ym mis Mawrth.