Wynne Evans yn rhoi teyrnged i'w frawd mawr 'hyfryd'

Wynne a Huw EvansFfynhonnell y llun, Wynne Evans/Instagram
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei deyrnged, disgrifiodd Wynne Evans ei frawd fel ei "arwr a'i ysbrydoliaeth"

  • Cyhoeddwyd

Mae Wynne Evans wedi rhoi teyrnged i'w "frawd hynaf hyfryd", wrth iddo gyhoeddi ei farwolaeth.

Roedd Huw Evans, o Gaerfyrddin, yn fargyfreithiwr.

Wrth gyhoeddi ei farwolaeth ar Instagram, dywedodd Wynne: "Rydw i mor drist i ddweud bod fy mrawd hynaf hyfryd wedi marw.

"Fy mrawd mawr oedd fy arwr a fy ysbrydoliaeth."

Ychwanegodd y canwr opera a'r cyflwynydd: "Huw, bydda i'n gweld dy eisiau gymaint a rydw i mor falch dy fod di wedi bod yn rhan o'm mywyd."

Pynciau cysylltiedig