Luke Williams yn gadael ei rôl fel rheolwr Abertawe

Fe dreuliodd Luke Williams gyfnod gydag Abertawe fel is-reolwr i Russel Martin cyn cael ei benodi'n brif hyfforddwr
- Cyhoeddwyd
Mae Luke Williams wedi gadael ei swydd fel prif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig.
Mae'r Elyrch wedi colli saith o'u naw gêm ddiwethaf ac wedi disgyn i'r 17eg safle yn y Bencampwriaeth ar ôl colli o 3-1 yn erbyn Stoke ddydd Sadwrn.
Cafodd Williams, 43, ei benodi yn brif hyfforddwr ym mis Ionawr 2024 ar ôl gadael Notts County.
Fe fydd yr hyfforddwyr cynorthwyol Ryan Hartley a George Lawtey hefyd yn gadael y clwb.
Mae Alan Sheehan wedi cael ei benodi yn rheolwr dros dro am yr eildro, gydag Abertawe yn dweud fod y broses o chwilio am olynydd i Williams "eisoes ar waith".
Dywedodd cadeirydd yr Elyrch, Andy Coleman: "Roedd hwn yn benderfyniad anodd... mae Luke wedi arwain y clwb drwy gyfnodau heriol ac ry'n ni'n gwerthfawrogi ei waith caled.
"Ond yn anffodus, ers y flwyddyn newydd dydi'r perfformiadau na'r canlyniadau wedi bod yn ddigon da ar gyfer y lefel yma."
Fe fydd Abertawe yn wynebu Blackburn Rovers yn eu gêm nesaf ar 27 Chwefror.