Y to ifanc yn 'fwy parod' i gymryd hyfforddiant diogelwch ffermydd

Fe wnaeth Mark Harries golli ei dad mewn damwain ar ei fferm yn Sir Gâr ym Medi 2022
- Cyhoeddwyd
Ar faes y sioe yn Llanelwedd mae galw o'r newydd ar ffermwyr i flaenoriaethu arferion diogelwch.
Yn ôl sefydliad Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, mae'n hanfodol bod ffermwyr yn gwella arferion diogelwch yn sylweddol, yn enwedig wrth weithredu cerbydau aml-dirwedd (ATVs) fel beiciau cwad.
Bu farw 27 o bobl mewn digwyddiadau ym meysydd amaeth, coedwigaeth a physgota yn y DU y llynedd.
Mae'r to iau yn fwy tebygol o dderbyn hyfforddiant, yn ôl y sefydliad, ac mae'n anoddach dylanwadu ar y genhedlaeth hŷn, medden nhw.
'Peidiwch torri corneli'
Fe wnaeth Mark Harries golli ei dad mewn damwain ar ei fferm yn Sir Gâr ym Medi 2022.
Fe gafodd Maldwyn Harries ei wasgu i farwolaeth gan darw yn ystod prawf TB.
Wrth sôn am y ffordd y mae ei deulu'n dygymod ers y farwolaeth, dywedodd Mark Harries: "Mae'n rhaid i chi gadw fynd.
"Mae e yn back eich meddwl chi drwy'r amser ond just trial neud e'n browd nawr a gobeitho bod e'n edrych lawr ar ben ni a bo ni'n neud y job yn iawn."
Dywedodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ar y pryd fod yr holl offer priodol ar y fferm ar gyfer cynnal y profion.
Daeth y crwner i'r casgliad mai damwain oedd achos marwolaeth Maldwyn Harries.
"Roedd popeth gyda ni ar gyfer y diwrnod. Popeth yn set up," meddai ei fab.
"Mae'n rhaid i bobl feddwl, peidwch torri corneli. Gwnewch yn siŵr fod popeth yn reit, bod y giats i gyd yn iawn.
"Os nag yw'r system yn reit, s'dim point trafod stoc, mae'n ormod o risg."

Fe wnaeth Aled Davies osgoi digwyddiad difrifol
Yn ôl ffigyrau diweddaraf y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, bu farw saith o bobl y llynedd yn dilyn digwyddiadau'n ymwneud â cherbydau aml-dirwedd.
Fe lwyddodd Ymgynghorydd Cymunedol NFU Cymru, Aled Davies, osgoi digwyddiad a allai fod wedi bod yn ddifrifol fis Mawrth eleni.
"Nes i ddim pwyso a mesur," meddai.
"O'n i wedi bod yn gweithio trwy'r dydd ac o'n i moyn checio'r da i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn.
"Es i lan y slope a o'n i ddim yn edrych le o'n i'n mynd achos o'n i'n edrych ar y fuwch.
"Es i lawr y slope 'na, nath y beic ddim stopo a moelodd e mewn i'r afon, o'n i'n lwcus iawn," meddai.
'Niferoedd ddim yn ddigon uchel'
Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru am weld gostyngiad sylweddol mewn gwrthdrawiadau sy'n gysylltiedig ag ATVs drwy gyfuno hyfforddiant ac addysg.
Ond nid pawb sy'n manteisio ar y cyfle, yn ôl Sian Tandy o Gyswllt Ffermio.

"Ni'n moyn bod mwy yn ymgymryd â'r hyfforddiant," medd Sian Tandy
"Mae'r niferoedd ddim yn ddigon [uchel] i fod yn onest," meddai.
"Ni'n moyn bod mwy yn ymgymryd â'r hyfforddiant.
"Mae'r to ifanc yn fwy parod i gymryd hyfforddiant, maen nhw wedi arfer, mae'r sialens yn bwrw'r to hŷn, y genhedlaeth hŷn."

Mae Caryl Davies yn ffermio yn Sir Benfro
Mae Caryl Davies, ffermwr o Sir Benfro'n credu bod dyletswydd arnyn nhw "fel pobl ifanc sydd gyda'r cyfleoedd yma i ddysgu'r sgiliau newydd ac i wneud y cyrsiau diogelwch 'ma i fod yn gyfrifol a helpu'r genhedlaeth henach i fod yn bwyllog a gofalus rownd y fferm".

Mae ffermio yn gallu bod yn ddiwydiant peryglus, medd Elgan Thomas o Lanelli
Fe ategodd Elgan Thomas, ffermwr ifanc o Lanelli, hyn drwy ddweud: "Mae e'n ddiwydiant peryglus a er yr holl hyfforddi a phethau ni'n neud, 'dan ni'n trio cymryd diogelwch o ddifri'.
"Ond pan chi'n trafod stoc, peiriannau, cemegau, mae gymaint o wahanol ffactorau sy'n effeithio ar ddiogelwch mewn amaeth."

Mae Gethin Tomos yn gwerthu peiriannau fferm ac yn dweud bod hyfforddiant yn bwysig
Mae'r rhai hynny sy'n gwerthu peiriannau fferm hefyd yn teimlo cyfrifoldeb i addysgu'r diwydiant, fel Gethin Tomos.
Dywedodd: "Mae'n bwysig bo ni'n hyfforddi pobl wrth gwerthu machines a neud siŵr 1. bod nhw'n gwbod fel i ddefnyddio fe, 2. shwt i ddefnyddio fe'n saff a wedyn wrth gwrs, shwt i edrych ar ôl y machine a maintaino fe."
Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn annog pob ffermwr a gweithiwr amaethyddol yng Nghymru i wrando ar eu neges.
"Blaenoriaethwch ddiogelwch cerbydau aml-dirwedd.
"Nid argymhelliad yn unig ydyw; mae'n hanfodol ar gyfer eich bywyd, eich bywoliaeth, a dyfodol amaethyddiaeth Cymru," medd llefarydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2023