'Bwlch enfawr' yn hyfforddiant alergedd athrawon

Dyw 67% o athrawon y DU heb gael hyfforddiant ffurfiol ar sut i ddefnyddio EpiPen, yn ôl NASUWT
- Cyhoeddwyd
Mae yna "nifer syfrdanol" o athrawon sydd erioed wedi derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth alergedd, yn ôl ymchwil newydd gan un undeb athrawon.
Dywedodd NASUWT nad oedd 67% athrawon wedi derbyn hyfforddiant ffurfiol yn y maes, er fod alergeddau bwyd yn effeithio ar ddau ddisgybl ymhob dosbarth ar gyfartaledd.
O ganlyniad, mae'r Natasha Allergy Research Foundation bellach yn cynnig adnoddau am ddim i ysgolion cynradd ar hyd y Deyrnas Unedig.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "pob ysgol yng Nghymru yn cael arweiniad ar ddefnyddio chwistrellwyr adrenalin awtomatig brys".
'Ysgol ddi-gnau'
Un ysgol sydd wedi ymateb i ddigwyddiadau meddygol yn ymwneud ag alergeddau bwyd yw Ysgol Gynradd Parc y Llan yn Nhreuddyn, Sir y Fflint.
Yn ôl y pennaeth, Meilir Ashford, mae'n hanfodol fod staff yn gwybod beth i wneud mewn argyfwng.
"Yn answyddogol, 'da ni'n ysgol ddi-gnau, 'da ni'n aml yn anfon llythyrau at rieni yn trio annog nhw i beidio â pharatoi brechdanau a packed lunch sydd efo cnau ynddo, a chwarae teg maen nhw'n dda iawn," meddai.
"Ers i ni gael y cinio ysgol am ddim 'da ni ddim yn cael gymaint â hynny."

Mae Meilir Ashford yn hyderus fod staff Ysgol Gynradd Parc y Llan yn gwybod sut i ymateb mewn argyfwng
Ychwanegodd: "O ran hyfforddiant i staff, 'da ni'n eithaf da, ma' 'na systemau yn eu lle, sy'n eithaf strict i fod yn deg a 'da ni'n canu o'r un hymn sheet.
"Pan ma' athrawon yn mynd i'r coleg, cael eu hyfforddi i ddysgu ma' nhw, dim i fod yn ddoctoriaid.
"Dim ond rhyw bedair wythnos yn ôl, ges i ddigwyddiad yn yr ysgol lle'r oedd rhaid i fi alw dau ambiwlans.
"Roedd gen i hogyn bach efo alergedd i peanuts, ond mi oedd o'n hawdd i ni achos oedden ni'n gwybod fod ganddo alergedd er bod o'n ddifrifol iawn.
"Mae gen i bedwar o staff sydd efo advanced first aid training a 'da ni'n gwybod yn iawn be i 'neud... ac os fasa'r systemau yna ddim yn eu lle, bydda fo wedi gallu bod yn lot fwy difrifol."
'Bwlch enfawr'
Mae NASUWT yn honni fod yna "fwlch enfawr" yn hyfforddiant alergedd athrawon a allai olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth mewn argyfwng.
Roedd arolwg yr undeb o bron 1,900 o athrawon yn nodi fod gan 95% o athrawon blant gydag alergeddau yn eu hysgolion, ond roedd dau draean heb gal hyfforddiant ffurfiol.
Maen nhw'n awgrymu hefyd nad yw un o bob pum athro wedi cael eu dysgu i ddefnyddio EpiPen, a bod 60% yn ansicr a oes gan eu hysgol bolisi alergedd o gwbl.
Mae £1m bellach yn cael ei fuddsoddi er mwyn sicrhau bod adnoddau ar gael i staff meithrinfeydd, ysgolion cynradd a chlybiau ieuenctid ar hyd y DU.

Mae Ysgol Gynradd Parc y Llan bellach yn ystyried ei hun yn 'ysgol ddi-gnau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae pob ysgol yng Nghymru yn cael arweiniad ar ddefnyddio chwistrellwyr adrenalin awtomatig brys.
"Mae'r arweiniad yn glir ynghylch yr angen i staff gael eu hyfforddi i ddefnyddio'r chwistrellwyr mewn argyfwng.
"Pan fydd staff yn gwirfoddoli neu'n cael eu contractio i gyflawni'r rôl hon, rhaid i'r awdurdod lleol a'r corff llywodraethu sicrhau eu bod yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth briodol ac effeithiol, ac yn teimlo'n hyderus yn eu dyletswyddau.
"Mae canllawiau statudol Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd yn nodi y dylid hyfforddi staff i adnabod arwyddion a symptomau cyflyrau meddygol cyffredin sy'n peryglu bywyd, a'r hyn sy'n eu sbarduno, a gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2022