Sut mae denu mwy o bobl i gymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth?

blwch
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r niferoedd sydd wedi bod yn pleidleisio yn etholiadau'r Senedd yn is na 50%

  • Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd grŵp sydd â'r dasg o wella democratiaeth yng Nghymru yn dweud "nad yw gwleidyddiaeth yn gweithio i lawer o bobl".

Bydd Dr Anwen Elias yn arwain tîm sy'n edrych ar sut gall mwy o bobl gael eu hannog i ymwneud â gwleidyddiaeth ar bob lefel.

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn dweud ei fod eisiau i bobl o bob cwr o Gymru deimlo bod ganddyn nhw rôl i'w chwarae.

Mae disgwyl i grŵp Dr Elias adrodd yn ôl cyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.

gorsaf bleidleisio
Disgrifiad o’r llun,

56% o bobl a bleidleisiodd yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd

26 mlynedd yn ôl i'r wythnos hon fe wnaeth Cymru ethol am y tro cyntaf y corff a oedd yn cael ei alw ar y pryd yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ond fe wnaeth llai na hanner pobl Cymru (46%) bleidleisio.

Bedair blynedd yn ddiweddarach aeth y ganran lawr i 38% a dyw canran y pleidleiswyr ar gyfer etholiadau'r Cynulliad na Senedd Cymru ddim wedi bod yn fwy na 50%.

Mae'r niferoedd ar gyfer etholiadau San Steffan wedi bod yn uwch nag ar gyfer y Senedd, ond dim ond 56% o bobl a bleidleisiodd yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd.

Mae'r grŵp yn cael ei gadeirio gan Anwen Elias (sy'n eistedd yn y canol)
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r grŵp yn cael ei gadeirio gan Anwen Elias (sy'n eistedd yn y canol)

O ganlyniad i adroddiad yr Athro Laura McAllister a chyn-Archesgob Cymru a Chaergaint, Rowan Williams, ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, mae panel bellach wedi'i ffurfio i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i adfywio democratiaeth yng Nghymru.

Yn ogystal ag edrych ar y nifer sy'n pleidleisio, bydd y grŵp hefyd yn gweld sut y gellir annog pobl i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ar bob lefel, o'r Senedd i gynghorau cymunedol.

Dywed y cadeirydd, Dr Anwen Elias, nad oes atebion hawdd i'r cwymp diweddar mewn diddordeb.

"Rwy'n credu bod yna lawer o resymau cymhleth, ac nid yw'r heriau ni'n eu hwynebu yng Nghymru yn unigryw i Gymru, ond yn sicr, rwy'n credu bod e'n eglur nad yw gwleidyddiaeth yn gweithio i lawer o bobl.

"D'yn nhw ddim yn teimlo bod gwleidyddion yn eu deall nac yn eu clywed. Mae bywyd yn anodd - gyda'r argyfwng costau byw a mynediad at wasanaethau cyhoeddus - ac felly mae yna ymdeimlad, beth mae democratiaeth yn ei wneud i ni?

"Felly rwy'n credu bod yr her yn gymhleth, a rhan o'n rôl yw deall hynny, ond hefyd meddwl yn wahanol am sut y gallwn fynd i'r afael â'r her honno."

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca Davies, yn goruchwylio'r gwaith, ac yn dweud bod newid yn bosibl.

"Rydym yn genedl gymharol fach ond yn un deinamig iawn a all feddwl yn wahanol am y pethau hyn," meddai.

"Felly dyna'r her i'r grŵp hwn. Mae angen llai o bolareiddio, mwy o ymgysylltiad ystyrlon, ac a dweud y gwir, mae angen i ddinasyddion Cymru o bob oed ac o bob cefndir deimlo bod ganddyn nhw ran i'w chwarae wrth ddylanwadu ar bopeth o'u cwmpas a'u cymunedau."

Wrth ymdrin â'r cwestiwn o ddiffyg hyder y cyhoedd mewn gwleidyddion i wneud yr hyn maen nhw wedi addo ei wneud, ychwanegodd: "Rwy'n credu bod angen i wleidyddion, pan gewn nhw eu hethol ar y cylch etholiadol (electoral cycle), gyflwyno rhaglen ar gyfer llywodraeth, ac yna mynd ati i'w chyflawni... ac yna mae angen i ni ddweud wrth bobl ein bod wedi gwneud hynny hefyd."

Mae'r grŵp yn bwriadu adrodd yn ôl cyn etholiad y Senedd fis Mai nesaf, gyda'r gobaith bod amser wedyn i'r pleidiau gwleidyddol ystyried yr hyn y mae'n ei argymell.