'Staff yn eu dagrau' wrth i gaffis canolfannau ymwelwyr gau

mapFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae caffis a siopau yn cau ddydd Llun yng nghanolfannau Coed y Brenin ger Dolgellau, Bwlch Nant yr Arian ger Ponterwyd, ac Ynyslas ar aber Afon Dyfi

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yn honni y bydd cau rhannau o'r ganolfan ymwelwyr yng Nghoed y Brenin yn ergyd sylweddol i'r economi leol.

Ddydd Llun, bydd Cyfoeth Naturiol (CNC) yn cau eu caffis a siopau mewn tair canolfan ymwelwyr - Coed y Brenin ger Dolgellau, Bwlch Nant yr Arian ger Ponterwyd yng Ngheredigion, ac Ynyslas, sy'n warchodfa natur ar aber Afon Dyfi.

Yn ôl y cynghorydd lleol Delyth Lloyd Griffiths, sy'n rhan o'r grŵp ymgyrchu 'Caru Coed y Brenin', bydd cau'r cyfleusterau "yn ddinistriol iawn", a hynny heb eglurder am y dyfodol.

Dywedodd CNC y gallai ymwelwyr oedd yn defnyddio eu cyfleusterau arlwyo neu fanwerthu yng Nghoed y Brenin gael mynediad at fusnesau yn ardal Dolgellau a'r cyffiniau.

Cyhoeddodd CNC ym mis Tachwedd eu bod am roi stop ar redeg caffis a siopau yn eu canolfannau ymwelwyr fel rhan o ymdrech i arbed £12m.

Bydd y safleoedd eu hunain yn parhau ar agor ar gyfer cerdded a beicio, yn ogystal â mannau chwarae, meysydd parcio a thoiledau.

Dywedodd CNC ar y pryd y gallai'r newidiadau arwain at golli 233 o swyddi.

Ond yn ôl y corff, nifer fach o staff fydd yn gadael - gyda'r mwyafrif yn cael eu symud i swyddi eraill o fewn y corff.

Maen nhw'n dweud eu bod yn nesáu at gamau olaf eu proses drawsnewid, a'u bod yn debygol o gyflawni'r arbedion ariannol angenrheidiol erbyn 1 Ebrill.

'Wedi eu siomi'

Fe agorodd canolfan ymwelwyr Coed y Brenin - rhwng pentref Ganllwyd a Thrawsfynydd - yn 1996.

Mae'r dros 50 milltir o lwybrau beicio mynydd, llwybrau cerdded a'r caffi yn denu dros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

"Ni'n siomedig iawn gyda CNC, bo' nhw'n cau adnodd sydd mor bwysig yn lleol ac i gymaint o fusnesau ym mhob cwr o Gymru," meddai Ms Lloyd Griffiths.

Ar Dros Frecwast bore Llun, dywedodd Ms Lloyd Griffiths ei bod "yng nghanolfan Coed y Brenin ddydd Gwener ac roedd 'na ddagrau ymhlith y staff, rhai wedi bod yno ddeunaw mlynedd, a rhai ohonyn nhw 'di penderfynu gadael y byd gwaith yn gyfan gwbl cymaint maen nhw wedi cael eu siomi".

Honnodd fod gwaith ymchwil grŵp Caru Coed y Brenin yn awgrymu y gallai'r economi leol golli allan ar filiynau o bunnau yn sgil cau'r cyfleusterau.

Delyth Lloyd Griffiths.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Delyth Lloyd Griffiths yn gynghorydd lleol ac yn rhan o grŵp Caru Coed y Brenin

"Mae e'n mynd i fod yn ddinistriol iawn i'r ganolfan, i'r ardal, nid yn unig i staff CNC sy'n colli'u gwaith ar hyn o bryd, ond mae gwaith yn cael ei golli hefyd yn 'Beics Brenin' sydd yn gwmni preifat sydd wedi bodoli ers 10 mlynedd, yn trwsio beics ac yn hurio beics," meddai.

"Mae'r diswyddiadau yn mynd yn bell-gyrhaeddol tu allan i staff Cyfoeth, sy'n ddigon dinistriol fel mae.

"Mae'r economi yn ddibynnol ar dwristiaeth," ychwanegodd, "mae'r impact yn mynd i fod yn fawr fawr iawn ar yr economi lleol."

Dywedodd ei bod yn gobeithio y bydd rhywun lleol yn cael cyfle i redeg y caffi yno, ond mae'n cyhuddo CNC o beidio â bod yn glir o ran dyfodol y tendr.

"Mae CNC wedi gofyn i bobl ddangos diddordeb ond dydy hynny ddim cweit yr un peth â cynnig tendr. Dyna y'n ni ddim yn hapus obeutu ar y foment."

Yn ôl Ms Lloyd Griffiths, "mae 'na bobl lleol â diddordeb i gymryd y caffi mlaen, ond mae bobl ofn rhoi cynllun busnes i mewn nawr rhag iddo gael ei rannu efo rhywun arall," ychwanegodd, "dyw'r broses wir ddim digon da."

Mewn ymateb dywedodd y corff y "bydd hwn yn gyfle marchnata agored, a gall unrhyw barti sydd â diddordeb gymryd rhan yn y broses, os ydynt yn cyflwyno cynnig dilys".

Toby Bragg
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Toby Bragg, mae'r canolfannau yn "arloesol" ac wedi denu miloedd o ymwelwyr i Gymru

Un arall sy'n siomedig o weld y cyfleusterau yn cau yw Toby Bragg - sy'n gweithio i'r cwmni wnaeth helpu i adeiladu rhai o'r llwybrau beics yn Nant yr Arian, ac sy'n berchen ar y siop feics yng Nghoed y Brenin.

Mae Mr Bragg wedi gweithio i'r cwmni ers 10 mlynedd, ond cafodd wybod yn ddiweddar y bydd ei swydd yn cael ei dileu.

Honnodd fod cynlluniau CNC yn gyfrifol am "rhan fawr o hyn" gan fod y busnes beicio "wedi dirywio'n gyflym ers y newyddion".

"Mae llawer o bobl yn meddwl bod y ganolfan gyfan a'r llwybrau yn cau, nid y ganolfan ymwelwyr yn unig," meddai, "ac yn anffodus, rydym bellach wedi cyrraedd pwynt lle na all ein hincwm gynnal fy rôl."

'Llwybr dinistriol'

Dywedodd Mr Bragg ei fod wedi trafod gyda busnesau lleol eraill, a'i bod "yn amlwg" fod y penderfyniad i gau'r cyfleusterau wedi cael effaith y tu hwnt i'r byd beicio.

"Ges i sioc ar ôl holi aelod o fwrdd CNC mewn cyfarfod cyhoeddus ym mis Rhagfyr - doedden nhw heb gynnal asesiad effaith ehangach i ddeall beth fyddai'r goblygiadau i'r economi leol a'r gymuned fusnes."

Fe gadarnhaodd CNC nad oedden nhw wedi cynnal asesiad economaidd, ond fod bwrdd CNC wedi cymeradwyo'r cynlluniau "ar ôl ymgynghori'n helaeth â'r undebau llafur, eu haelodau, a staff".

Dywedodd y llefarydd fod tîm arweinyddiaeth CNC wedi cynnal asesiad helaeth o'r risgiau ac effeithiau fel rhan o'r gwaith paratoi.

Ychwanegodd Mr Bragg ei fod wedi synnu o weld Llywodraeth Cymru yn "cefnogi" CNC ar "lwybr mor ddinistriol".

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru fod "pob sefydliad yn cael ei effeithio gan bwysau cyllidebol y sector cyhoeddus".

"Roedd penderfyniad CNC i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau manwerthu ac arlwyo yn eu canolfannau ymwelwyr yn rhan o gynigion i sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y cyllidebau sydd ar gael," medd llefarydd.

Canolfan Bwlch Nant yr Arian
Disgrifiad o’r llun,

Mae CNC yn dweud eu bod "yn deall pa mor bwysig yw'r safleoedd i gymunedau lleol ac ymwelwyr"

Mae CNC yn dweud y bydd y gwaith sy'n cael ei wneud i ddiogelu bywyd gwyllt a chynnal y safleoedd hyn yn parhau i gael ei oruchwylio gan eu staff rheoli tir.

Ni fydd Ynyslas yn cael ei gynnig at ddefnydd masnachol a bydd CNC yn edrych ar ddibenion cymunedol ar gyfer y safle, meddan nhw.

Ond maen nhw bellach yn "canolbwyntio'n gadarn ar y broses o ddod o hyd i bartneriaid i gofrestru diddordeb mewn darparu gwasanaethau ym Mwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin".

Dywedodd Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC, eu bod yn deall pa mor bwysig yw'r safleoedd i gymunedau lleol ac ymwelwyr.

Esboniodd Ms Grace eu bod ar hyn o bryd "yn y broses o gadarnhau sut a phryd" y bydden nhw'n cyflwyno'r cyfleoedd i bartneriaid ar y farchnad.

Diolchodd i bawb am eu dealltwriaeth a'u hamynedd, gan ddweud fod CNC eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn "ei wneud yn iawn", er mwyn osgoi dryswch.

Ychwanegodd ei bod hi'n "bwysig cymryd yr amser angenrheidiol nawr i sicrhau proses llyfn yn nes ymlaen".