Galw am gynyddu nifer y llysiau lleol mewn ysgolion
- Cyhoeddwyd
"Mae’r bwyd heb gael ei brosesu. Mae’n dod yn lleol ac yn organig. Mae’n iachus i’r plant a mae jyst yn grêt i fod yn rhan ohono fe i gyd."
Mae Geraint Evans a'i wraig Emma yn berchen ar naw erw o dir ym Mro Morgannwg, ac maen nhw'n tyfu llysiau a ffrwythau organig ers tair blynedd.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf maen nhw wedi bod yn cyfrannu cynnyrch at gynllun Llysiau Cymru i Ysgolion Cymru, sy'n cael ei gydlynu gan elusen Synnwyr Bwyd Cymru.
Mae Geraint yn dweud fod y cynllun wedi bod o gymorth iddo fe i sicrhau bod ei fusnes yn llwyddo.
"Mae’n helpu ni’n dda iawn achos ni’n rhoi cynllun at ei gilydd gyda thyfwyr eraill a ni’n gwybod pa lysiau sydd eisiau blwyddyn nesa'," meddai.
"Ni’n gallu plano popeth mas, ni’n gallu 'neud yn siŵr fod hadau iawn gyda ni, planhigion iawn i dyfu a mae jyst yn rhoi cynllun a sicrwydd i ni".
Ar hyn o bryd mae swm sylweddol o’r llysiau sy’n cael eu gweini mewn ysgolion yng Nghymru wedi’u rhewi, a daw’r mwyafrif llethol ohonynt - 94% - o’r tu allan i Gymru.
Mae elusen Synnwyr Bwyd Cymru, sy'n dylanwadu ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio, yn galw am fuddsoddi er mwyn cynyddu canran y llysiau o Gymru sy'n cael eu gweini yn ein hysgolion i 10% erbyn 2028.
Dywed Dr Amber Wheeler, arbenigwr bwyd o Sir Benfro, mai "dim ond oddeutu chwarter dogn llysiau y pen o’r boblogaeth sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae angen mwy o lawer".
"Bydd hynny yn golygu cynyddu nifer y tyfwyr sy' gyda ni a nifer y ffermwyr sy'n tyfu llysiau ar eu caeau.
"Mae'r farchnad yno ar eu cyfer trwy'r ysgolion."
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n "ystyried pa gefnogaeth bellach y bydd modd ei roi fel rhan o gyllideb ddrafft 2025-26".
Yn ystod 2024, fel rhan o gynllun peilot, bydd wyth tyfwr bwyd o Gymru yn cyflenwi oddeutu 40 tunnell o lysiau i ysgolion mewn chwe awdurdod lleol drwy gwmni Castell Howell.
Yn ôl Edward Morgan o'r cwmni: "Ni'n gweld fod y sefyllfa dros y byd yn fregus o safbwynt cael cynnyrch, hyd yn oed o Ewrop.
"Mae tymheredd y byd yn twymo felly mae'n rhaid i ni weithio tamaid bach yn galetach nawr, meddwl tamaid bach yn wahanol a chydweithio gyda chyflenwyr ni o Gymru."
Erbyn 2028 mae Synnwyr Bwyd Cymru yn awyddus i ymestyn y cynllun peilot o wyth i 100 o dyfwyr, yn ôl Dr Wheeler.
Mae'n dweud fod y manteision yn anferth o ran "yr amgylchedd, cwtogi carbon, tyfu bioamrywiaeth a hefyd amaeth, gan fod swyddi a thyfu'r economi yn gallu digwydd trwy gyfrwng garddwriaeth".
Un o'r ysgolion sy'n rhan o'r cynllun peilot yw Ysgol Sant Baruc yn Y Barri.
Mae Carys Gronow, sy'n gweithio yn y gegin, yn bendant fod y plant yn mwynhau'r arlwy.
"Fi wedi cael y llysiau organig Cymreig, a gaetho' ni courgettes, pupur, winws, squash a 'naethon ni torri nhw lan a rhoi nhw mewn i pasta bake ni wedi neud heddiw," meddai.
"Ni wedi rhostio rhai hefyd yn y ffwrn, so maen nhw’n gallu cael nhw ar yr ochr hefyd a mae’n edrych yn lliwgar ac yn neis iddyn nhw."
Disgyblion wedi'u plesio
Wrth fwyta pasta a llysiau ffres i ginio roedd y plant yn amlwg wedi plesio, ac yn croesawu'r ffaith fod y llysiau yn lleol.
"Fi’n meddwl bod o’n rili dda achos bydda' nhw’n fwy ffres," meddai Evan.
Ychwanegodd Emlyn: "Dwi’n meddwl bod hynna’n dda oherwydd wedyn ti ddim eisiau prynu nhw o’r siop.
"Maen nhw’n ffres achos bo' nhw wedi dod o’r ardd."
Mae Bethan yn teimlo fod y cynllun yn helpu'r blaned.
"Mae o’n dda i’r amgylchedd achos maen nhw’n dod o Gymru a dim rhywle arall," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhannol gyfrifol am ariannu'r cynllun peilot tan fis Mawrth 2025.
Dywedodd llefarydd eu bod yn "cydnabod fod prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru wedi helpu datblygu gallu cynhyrchu ymhlith tyfwyr lleol er mwyn darparu’r sector cyhoeddus"
Ychwanegodd y byddan nhw’n ystyried "pa gefnogaeth bellach y bydd modd ei roi fel rhan o gyllideb ddrafft 2025-26".
Sicrhau bwyd iach i blant yw bwriad cynllun Llysiau Cymru i Ysgolion Cymru, ynghyd â chefnogi tyfwyr i sicrhau incwm rheolaidd.
Mae hynny yn rhan o weledigaeth ehangach i sicrhau sector fwyd sy'n ffynnu, a gwlad sy'n bwyta a byw yn iach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref
- Cyhoeddwyd1 Mai
- Cyhoeddwyd21 Mawrth