Dim lle i Louis Rees-Zammit yng ngharfan y Chiefs
- Cyhoeddwyd
Dyw cyn-chwaraewr rygbi Cymru Louis Rees-Zammit ddim wedi llwyddo i sicrhau ei le yng ngharfan derfynol tîm pêl-droed Americanaidd y Kansas City Chiefs.
Fe gyhoeddodd Reez-Zammit, 23, ym mis Ionawr ei fod yn gadael clwb rygbi Caerloyw i geisio sicrhau cytundeb yn yr NFL.
Cafodd ei dderbyn i'r International Player Pathway (IPP) - sy'n rhoi cyfle i athletwyr elît sicrhau cytundebau gyda phrif glybiau'r Unol Daleithiau.
Ar ôl creu argraff yn y treialon, fe gafodd ei arwyddo gan bencampwyr presennol yr NFL, y Kansas City Chiefs, ym mis Mawrth.
Ond daeth i'r amlwg nos Fawrth nad yw wedi llwyddo i sicrhau lle yng ngharfan y Chiefs ar gyfer y tymor newydd - carfan sy'n cynnwys 53 o chwaraewyr.
Mae Rees-Zammit wedi chwarae rhan ym mharatoadau'r Chiefs ar gyfer y tymor newydd, gan gynnwys ymddangos mewn tair gêm ble bu'n chwarae sawl safle.
Ond roedd 90 o chwaraewyr yn rhan o garfan hyfforddi'r Chiefs, a dim ond lle i 53 yn y garfan derfynol fydd yn eu cynrychioli mewn gemau yn yr NFL.
Y freuddwyd ddim ar ben
Dyw'r Cymro ddim wedi sicrhau ei le yn y garfan honno, ond y disgwyl yw y bydd yn parhau gyda charfan ymarfer y Chiefs, neu ymuno â charfan ymarfer clwb arall.
Pe bai'n gwneud hynny, y gobaith fyddai dysgu mwy am y gêm dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau ei le mewn carfan derfynol yn y dyfodol.
Fe allai Rees-Zammit gael ei ddyrchafu o garfan ymarfer i'r garfan lawn yn ystod y tymor hefyd.
Mae timau yn cael cynnwys dau chwaraewr o'u carfan ymarfer yn y tîm cyntaf ar gyfer pob gêm NFL.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth
- Cyhoeddwyd16 Ionawr