Carchar Parc: Degfed carcharor wedi marw mewn tri mis

carchar y parc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carchar y Parc ym Mhen-y-bont yn cael ei redeg gan gwmni diogelwch G4S

  • Cyhoeddwyd

Mae degfed carcharor wedi marw yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr mewn tri mis.

Bu farw Warren Manners, 38 oed, ddydd Mercher.

Mae'r ymchwiliad i'w farwolaeth yn parhau ond ar hyn o bryd ni chredir bod ei farwolaeth yn amheus.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw i Garchar y Parc am 12:20 wedi i un o'r carcharorion farw yn sydyn.

Ers 27 Chwefror eleni mae naw arall wedi marw yn y carchar sy'n cael ei redeg gan gwmni diogelwch G4S.

Credir bod marwolaethau pedwar o'r carcharorion yn gysylltiedig â chyffuriau.

Yn y cyfamser mae un aelod o staff wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â chyffuriau.

Dywedodd llefarydd ar ran y carchar y bydd marwolaeth Mr Manners yn cael ei archwilio gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth ac y byddai'r crwner yn nodi achos ei farwolaeth.

Ychwanegodd y llefarydd bod y carchar yn cydymdeimlo gyda'i deulu a ffrindiau.

Disgrifiad o’r llun,

Protest y tu allan i Garchar y Parc ddydd Llun

Ddydd Llun bu teuluoedd dau garcharor sydd wedi marw yn protestio y tu allan i'r carchar.

Mae dau Aelod Seneddol wedi galw ar Lywodraeth i DU i fod yn gyfrifol am y carchar.

Mae Carchar y Parc yn garchar Categori B sy'n cartrefu dynion a throseddwyr ifanc, ac mae'n un o garchardai mwyaf y DU.

Yn gynharach eleni dywedodd Heddlu De Cymru bod y cyffur Nitazene yn gysylltiedig â phedair marwolaeth yn y carchar.

Roedd y cyffur spice, medd yr heddlu, yn gysylltiedig â dwy farwolaeth arall.

Ym mis Mawrth fe anogodd Adrian Usher, yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth, bob carcharor oedd â'r cyffur spice i gael gwared ohono.

Pynciau cysylltiedig