Arestio dau mewn cysylltiad â thwyll yn ymwneud â thocynnau

Taylor SwiftFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Taylor Swift yn perfformio yng Nghaerdydd nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dau o bobl wedi cael eu harestio gan swyddogion sy'n ymchwilio i honiadau o "dwyll difrifol yn ymwneud â thocynnau" sy'n gysylltiedig â chyngherddau yng Nghaerdydd.

Cafodd dynes 32 o Gastell-nedd a dyn 27 o Gaerdydd eu harestio ar amheuaeth o dwyll.

Mae'r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Yn ôl y Ditectif Sarjant Grant Phillips, mae Heddlu'r De wedi bod yn ymchwilio i "dwyll tocynnau ar raddfa fawr drwy grŵp WhatsApp a hynny'n ymwneud â chyngherddau yng Nghaerdydd".

Dywedodd bod yr heddlu yng nghanol y broses o gysylltu gyda'r rhai sydd yn rhan o'r grŵp WhatsApp.

Mae tua 30 o gyngherddau yng Nghaerdydd dros yr haf, gyda Taylor Swift yn perfformio yn Stadiwm Principality nos Fawrth, wythnos ar ôl i Pink berfformio yno.