Caerdydd yn paratoi i groesawu'r gantores Pink

PinkFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gantores wedi dweud ei bod yn edrych ymlaen at ddod i Gaerdydd i berfformio

  • Cyhoeddwyd

Bydd Caerdydd yn troi’n binc ddydd Mawrth, wrth i ddegau o filoedd o bobl heidio i weld un o sêr amlycaf y byd pop.

Mae’r gantores Pink yn cychwyn ei thaith Ewropeaidd, Summer Carnival, yn Stadiwm Principality heno.

Mae disgwyl i filoedd o bobl ymweld â’r brifddinas wrth i'r awdurdodau rybuddio y gallai teithwyr wynebu oedi ar draffordd yr M4, ac mae un gwasanaeth trên o Gaerdydd wedi ei atal yn sgil gwaith adnewyddu.

Mae’r gantores, sydd yn enillydd tair gwobr Grammy, wedi dweud ei bod hi’n gyffrous iawn i fod yn ôl yng Nghymru.

Mi fydd y gantores wedyn yn mynd i Lundain, Dulyn, Lerpwl a Glasgow i berfformio cyn mynd i’r Unol Daleithiau ddiwedd yr haf.

Mae hi ymhlith rhai o enwau mawr y byd cerddoriaeth sydd wedi dewis ymweld â Chymru eleni - mae'r rhestr hefyd yn cynnwys Taylor Swift a’r Foo Fighters.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Julie Jones a Theresa Owen wedi teithio o Sir Gaerfyrddin i weld y gyngerdd

Mae Julie Jones, 58, o Gaerfyrddin a’i ffrind Theresa Owen, 62, o Sanclêr wedi teithio i Gaerdydd i wylio Pink am y tro cyntaf.

Mae Julie’n edrych ymlaen fwyaf at “weld yr acrobats”, a Theresa yn cytuno.

“Ni ‘di wotcho hi ar y we yn barod, mae’n ffantastig,” meddai.

“Fi’n ffaelu aros i weld hi.”

Disgrifiad o’r llun,

Hwn fydd y tro cyntaf i Madison, 13, a Caitlin, 14, weld Pink yn perfformio

Mae Madison, 13, a Caitlin, 14, hefyd wedi teithio o Sir Gaerfyrddin i weld Pink mewn cyngerdd am y tro cyntaf, ac yn edrych ymlaen yn fawr.

Trustfall yw hoff gân fi,” meddai Madison.

Ychwanegodd Caitlin: “Fi’n hoffi pob cân sydd ganddi.”

Amserlen y noson

Mi fydd gatiau’r stadiwm yn agor am 16:00 gyda disgwyl i fand cyntaf y noson, KidCutUp, ddechrau perfformio am 17:30.

Mae Pink wedyn yn cael cefnogaeth Gayle am 18:15 a band The Script am 19:05, cyn iddi hi ddechrau perfformio am 20:25.

Y disgwyl yw y bydd y gantores ar y llwyfan am ddwy awr gyda tho y stadiwm ynghau.

Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb cyngerdd Pink yng Nghaerdydd

Mae’r tocynnau i gyd wedi eu gwerthu ond mae rhai ar gael yn ail-law sy'n costio rhwng £155 a £372.

Y cyngor, yn ôl rheolwyr y stadiwm, yw y dylai pobl gael ap tocynnau penodol ar eu ffonau symudol cyn cyrraedd.

Maen nhw hefyd yn dweud na ddylai pobl gario bag sy’n fwy na maint darn o bapur A4.

Cyrraedd y gyngerdd

Y cyngor i gefnogwyr Pink ydy cerdded, seiclo neu gyrraedd y cyngerdd ar drafnidiaeth gyhoeddus pan fo hynny'n bosib.

Mae pobl yn cael eu cynghori i edrych ar amserlenni bysys o fewn y ddinas a hynny oherwydd bod strydoedd ar gau a threfniadau arferol wedi eu haddasu.

Mi fydd Heol Scott a Stryd y Parc ar gau o 07:00, gyda heolydd eraill yn cau am 15:00 tan ganol nos, gan gynnwys Heol y Porth (Westgate Street), Stryd Wood a Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (Cowbridge Road East).

Y disgwyl yw y bydd traffordd yr M4 hefyd yn brysur iawn, ac mae'r awdurdodau'n annog gyrwyr i edrych ar y sefyllfa traffig ar-lein cyn cychwyn ar eu teithiau.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r olygfa tu allan i orsaf reilffordd canol Caerdydd ben bore Mawrth wrth i'r brifddinas baratoi i groesawu miloedd o bobl yn ystod y dydd

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, y disgwyl yw y bydd gwasanaethau trên yn brysur iawn, er y bydd capasiti ychwanegol i fewn ac allan o Gaerdydd lle mae'n bosib.

Mae Cyngor Caerdydd yn rhedeg gwasanaeth parcio a theithio o 09:00 ymlaen, lle bydd modd i bobl adael eu ceir ger Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd a theithio ar fws i’r ardal gyferbyn â Stadiwm Principality.

I eraill, mi fydd cyfle i dalu i barcio yng Ngerddi Sophia a Chanolfan Ddinesig Caerdydd.