Dyn yn euog o ddynladdiad wedi ffrae y tu allan i dafarn

BrogdenFfynhonnell y llun, GEOGRAPH / JAGGERY
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad y tu allan i dafarn y Brogden ym Mhorthcawl

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Rondda Cynon Taf wedi ei gael yn euog o ddynladdiad yn dilyn ymosodiad y tu allan i dafarn ym Mhorthcawl.

Bu farw Daniel Bradley, 32, yn yr ysbyty ar 23 Medi y llynedd, bythefnos wedi iddo gael ei gicio, ei ddyrnu a'i wthio i'r llawr y tu allan i dafarn y Brogden.

Cafodd lluniau camerâu cylch cyfyng o rannau o'r digwyddiad eu dangos i'r rheithgor yn ystod yr achos yn Llys y Goron Caerdydd.

Cafwyd Steven Chappel, 29 oed o Gwmdâr, yn euog o ddynladdiad, ond yn ddieuog o lofruddiaeth.

Roedd Chappel yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Ymosodiad 'parhaus'

Yn ystod yr achos, cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio gan yr erlyniad fel "ymosodiad parhaus" ar ddioddefwr "diamddiffyn".

Clywodd y llys fod Chappel wedi dweud wrth yr heddlu fod y ffrae yn ymwneud ag arian i brynu cyffuriau, a'i fod o wedi brolio am yr ymosodiad i'w ffrindiau.

Fe dorrodd Mr Bradley un o'i asennau, fe gafodd haint ar y frest wnaeth arwain at sepsis, yn ogystal ag anaf i'r ymennydd gafodd ei achosi gan ddiffyg ocsigen.

Clywodd y llys fod Mr Bradley wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty, ond ei fod wedi dychwelyd rai dyddiau yn ddiweddarach ar ôl i'w fam alw 999.

Yn ôl arbenigwyr meddygol, dylai rhagor o ymchwiliadau meddygol wedi cael eu cynnal ar Mr Bradley yn yr ysbyty.

Fe fydd Steven Chappel yn cael ei gadw yn y ddalfa tan iddo gael ei ddedfrydu ar 19 Awst.

Pynciau cysylltiedig