Llety gwyliau Môn: Gwrthod un cais ond caniatáu un arall

Cyn-Gapel Jerusalem yn LlangoedFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cais i drosi'r cyn-Gapel Jerusalem yn Llangoed yn fflatiau at ddiben gwyliau

  • Cyhoeddwyd

Mae cais i drosi cyn-gapel ym Môn yn llety gwyliau wedi cael ei wrthod yn sgil pryderon byddai'n "agor y llifddorau" i ddatblygiadau tebyg.

Dywedodd un cynghorydd bod yn rhaid "rhoi cymunedau lleol o flaen datblygwyr", wrth ddatgan ei fod "wedi cael digon o weld tai yn cael eu defnyddio fel ail dai ac unedau gwyliau".

Ond fe wnaeth yr un pwyllgor hefyd ganiatáu cais i godi 55 chalet gwyliau ar gyrion Porthaethwy yn dilyn rhybudd byddai'r ymgeiswyr yn ennill apêl gydag arolygwyr Llywodraeth Cymru be bai'n cael ei wrthod.

Roedd y ddau gais wedi eu cyflwyno i aelodau o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Môn brynhawn Mercher, wedi i'r ddau gael eu gwrthod yn eu cyfarfod diwethaf.

Ond gan fod y ddau wedi eu gwrthod yn groes i argymhelliad swyddogion, fe gafon nhw eu hailgyflwyno yn dilyn cyfnod o gnoi cil.

'Dolur llygad'

Yn 2022 fe wrthodwyd ymgais i drosi Capel Jerusalem yn Llangoed yn bedair fflat at ddiben gwyliau.

Ers hynny roedd cais newydd wedi ei gyflwyno ar gyfer tair fflat yn unig.

Ond yn ôl cynghorwyr roedd gwrthwynebiadau lleol am faterion traffig a pharcio yn parhau, gan ailadrodd y ddadl fod “gormodedd” o ddarpariaeth gwyliau yn yr ardal.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd aelodau nad oedd y trefniadau parcio yn addas, a bod gwrthwynebiad yn Llangoed i'r datblygiad

Roedd y cais wedi ei gyflwyno gan Baby Bird Development Ltd o Fanceinion, sy’n cael ei redeg gan Loretta ac Anthony Hodari.

Yn ôl swyddogion cynllunio, oedd yn argymell caniatáu’r cais, mae'r cyn-gapel yn adeilad "mawr ac amlwg" ond yn "debygol o ddirywio ymhellach heb fuddsoddiad".

Ychwanegon nhw fod posib y gallai ddod yn "ddolur llygad o ystyried ei faint ac amlygrwydd yn y pentref".

Ond wedi derbyn gwrthwynebiad cryf gan y cyngor cymuned leol, dadl sawl cynghorydd oedd bod nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau hunanarlwyo yn ardal Llangoed eisoes yn 15.36% - ac felly dros y trothwy o 15% sy'n cael ei ddefnyddio gan y cyngor fel argymhelliad.

Roedd pryderon hefyd dros drafferthion parcio sydd eisoes yn y pentref gan nad oes llefydd digonol, a byddai'r sefyllfa yn gwaethygu petai'r cais yn cael ei ganiatáu.

Er hyn roedd swyddogion priffyrdd y cyngor yn fodlon gyda'r cais.

Ond dywedodd un o'r cynghorwyr lleol, Gary Pritchard: "Fedrwn ni ddim cael cysondeb heb osod trothwy.

"Mae Biwmares ymhell dros y trothwy. Byddai hyn yn agor y llifddorau a bydd pentrefi cyfagos i Fiwmares yn cael eu llyncu gan ail dai fel mae Biwmares wedi ei wneud."

'Digon yw digon'

Hefyd yn dadlau yn erbyn y datblygiad, dywedodd y Cynghorydd Robin Williams: "Mae'n rhaid i fel pwyllgor ystyried be ydan ni eisiau ei adael yn waddol ar yr ynys 'ma.

"Mae gen i ddata o fy mlaen yn mynd nôl i Medi 2020, ac yn Llangoed bryd hynny roedd 12.95% o'r stoc dai yn ail dai neu unedau hunan arlwyo.

"Erbyn heddiw mae wedi cynyddu i 15.36% ac os wnawn roi caniatâd fydd nesa' peth i 16%."

Disgrifiad o’r llun,

Robin Williams: "Mae'n rhaid i ni roi ein cymunedau ni o flaen y datblygwyr"

Ychwanegodd: "Dydy hyn ddim yn unigryw i Fôn neu Chymru, ond 'da ni'n clywed ar y newyddion am bobl yn protestio yn Majorca ac ati oherwydd fod gymaint o ail dai yn y fan honno, a phobl Cernyw yn cwffio nôl.

"Dwi'n derbyn mai canllaw ydy'r 15%, ond pa bryd ydyn ni'n dweud mai digon ydy digon?

"Os oes rhaid i ni fynd i apêl a dweud hyn wrth yr arolygydd mi wna'i... dwi 'di cael digon o weld tai yn cael eu defnyddio fel ail dai ac unedau gwyliau."

Gan awgrymu y byddai'n well ganddo weld y capel yn cael ei droi'n unedau fforddiadwy i "bobl leol", ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni roi ein cymunedau ni o flaen y datblygwyr 'ma, sydd byth a beunydd yn dod o'n blaen ni gyda datblygiad arall dro ar ôl tro i gael mwy o dai haf i bobl gyfoethog o Fanceinion, Birmingham neu le bynnag maen nhw'n dod.

"Fedran ni ddim cario 'mlaen i wylio'r sefyllfa yn cario 'mlaen neu fyddwn ni wedi lladd ein cymuned yn gyfan gwbl."

Cafodd y cais ei wrthod yn derfynol gan y pwyllgor, gydag ond un aelod o blaid.

Caniatáu datblygiad gwyliau

Roedd y cyngor hefyd yn trafod cais i godi 55 chalet gwyliau ar Fferm Wern ger ffordd Pentraeth, Porthaethwy.

Yn ôl yr ymgeiswyr byddai'r datblygiad “o ansawdd uchel” ac yn darparu “hafan dawel i weithwyr proffesiynol sydd wedi ymddeol, swyddogion gweithredol a’u teuluoedd".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pryderon dros y fynedfa i'r safle, sy'n rhedeg ger ffordd yr A5025

Yn eu cais ychwanegon nhw byddai'r unedau yn cael eu darparu “yn benodol at ddibenion gwyliau” a byddai'r datblygiad yn creu tair swydd llawn amser a phedair rhan amser.

Ond roedd y datblygiad wedi denu gwrthwynebiad yn lleol, gan gynnwys 10 llythyr gan y cyhoedd yn poeni am sŵn, fod gormodedd o lety gwyliau yn yr ardal yn barod a'r cynnydd mewn traffig.

Y sefyllfa draffig oedd prif bryder aelodau'r pwyllgor cynllunio brynhawn Mercher, gan honni nad yw'r fynedfa yn addas ar gyfer cynifer o geir ychwanegol bob dydd.

Ond yn sgil rhybudd byddai'r ymgeiswyr yn apelio'r penderfyniad - ac y bydden nhw'n debygol o lwyddo ar apêl - fe gymeradwywyd y cais o saith pleidlais i bedwar.

Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans: "Dwi'n meddwl fod 'na fwy o ddefnydd i lefydd fel hyn na chael tai haf ac Airbnb oddi fewn ein cymunedau ni."

Pynciau cysylltiedig