Dyn wedi'i arestio ar ôl i ddynes gael ei thrywanu

Heddlu arfogFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i ddynes 29 oed gael ei thrywanu yn Aberfan.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Moy am 09:10 fore Mawrth yn dilyn adroddiad o "ymosodiad difrifol".

Roedd Heddlu'r De wedi galw ar y cyhoedd i gadw draw wrth i swyddogion arfog chwilio'r ardal.

Tua 16:30 daeth cadarnhad bod dyn 28 oed o Ferthyr Tudful wedi cael ei arestio, ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae llygad-dystion wedi dweud wrth ohebwyr y BBC bod y ddynes a gafodd ei thrywanu yn feichiog.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd swyddogion arfog wedi'u gweld ar Stryd Wyndham yn Nhroed-y-rhiw cyn i'r dyn gael ei arestio

Yn siarad gyda'r wasg ddiwedd y prynhawn, dywedodd y Prif Arolygydd Rob Miles fod yr ymosodiad yn un "oedd wedi'i dargedu", a bod y dyn sydd dan amheuaeth a'r fenyw a gafodd ei thrywanu yn adnabod ei gilydd.

Ychwanegodd fod y ddynes yn parhau yn yr ysbyty, ond nad yw ei hanafiadau yn rhai sy'n peryglu ei bywyd.

"Rwy'n gwerthfawrogi y bydd sioc o fewn y gymuned leol fod yr ymosodiad yma wedi digwydd yng ngolau dydd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Moy am 09:10 fore Mawrth yn dilyn adroddiad o "ymosodiad difrifol"

Roedd nifer o swyddogion arfog ar Heol Wyndham yn Nhroed-y-rhiw, tua 1.6 milltir o Heol Moy - yn fuan cyn i'r dyn gael ei arestio.

Dywedodd Kaylee Organ, sy'n byw ar Heol Wyndham, ei bod wedi gweld dyn yn cael ei dywys o'r ardal brynhawn Mawrth.

"Ddywedodd yr heddlu ddim byd. Fe wnaethon nhw ei gymryd a gadael", meddai.

Ychwanegodd Katie Roberts - a welodd y digwyddiad - fod y fenyw a gafodd ei thrywanu yn "ddewr iawn".

"Rwy'n gobeithio ei bod hi a'r babi yn iawn," meddai.

"Roedd hi mewn sioc ac yn ddewr iawn, iawn.

"Rwy' ddim o fan hyn yn wreiddiol - mae fy mhartner i o fan hyn. Mae e wedi byw yma ar hyd ei fywyd a dyw hyn ddim yn digwydd mewn pentref bach fel hyn."

Cadarnhaodd Cyngor Merthyr Tudful fod nifer o "ysgolion a lleoliadau gofal plant o dan glo rhagofalus, mewn ymateb i ddigwyddiad parhaus", yn ystod y prynhawn.

Ond fe gafodd y gorchymyn yna ei godi yn ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Google

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod ambiwlans brys ac un ambiwlans awyr wedi eu hanfon i'r leoliad, "lle darparwyd cymorth gofal critigol".

"Cafodd un claf ei gludo gan ambiwlans ffordd i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd am driniaeth bellach."

Mae’r golau yn dechrau pylu ar Heol Moy a Phlas y Coroni, ar ddiwedd diwrnod o sioc a syndod i drigolion lleol.

Mae pobl sy’n byw ar y ddwy stryd wedi dweud wrth ohebwyr dro ar ôl tro yn ystod y dydd nad ydyn nhw’n disgwyl digwyddiad o'r fath yn eu cymuned nhw.

Mae eu meddyliau hefyd gyda’r fenyw gafodd ei thrywanu, gan obeithio y bydd hi’n iawn.

Pynciau cysylltiedig