Dyn wedi'i ladd gan gar tra'n gorwedd yn y ffordd - cwest
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed fod dyn a oedd yn credu ei fod wedi taro mochyn daear gyda'i gar, wedi taro a lladd dyn mewn gwirionedd.
Bu farw Sion Jones, 43, wedi iddo gael ei daro gan gar ar yr A525 ger Coed-poeth, Wrecsam, ar noson 2 Mai 2023.
Yn y cwest i'w farwolaeth dywedodd gyrrwr y car a darodd Mr Jones, Sam Edwards, ei fod yn gyrru o fewn y terfyn cyflymder 50mya ar y pryd.
Dywedodd ei fod wedi gweld rhywbeth yn cropian ar hyd y ffordd, a'i fod wedi'i daro.
Ychwanegodd ei fod wedi taro mochyn daear ar yr un ffordd rhai blynyddoedd ynghynt, a'i fod felly'n credu mai dyna'r achos y tro hwn hefyd.
Ond wedi iddo sylweddoli ar y difrod i'w gar Ford Focus, aeth yn ôl i'r lleoliad a sylweddoli ei fod wedi taro Mr Jones.
Cafodd ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle, ac fe ddaeth i'r amlwg yn ddiweddarach ei fod wedi dioddef anaf difrifol i'w ymennydd.
Wedi bod yn yfed
Fe wnaeth prawf post mortem ddangos fod Mr Jones wedi bod yn yfed cyn y digwyddiad, ac roedd lluniau CCTV gerllaw yn ei ddangos yn cerdded yn simsan gyda chan yn ei law.
Dywedodd ymchwilydd fforensig i wrthdrawiadau, Gordon Saynor, fod Mr Jones yn gwisgo dillad tywyll, a'i fod yn credu na fyddai modd i Mr Edwards ei osgoi gyda'i gar, ag yntau'n gorwedd yn y ffordd.
Clywodd y cwest fod Mr Jones, o Goed-poeth, yn bêl-droediwr talentog pan yn ifanc, a'i fod wedi cael treialon gyda Stoke City cyn iddo gael anaf yn 15 oed.
Dywedodd ei fam, Denise Roberts, wrth y gwrandawiad fod gan ei mab broblem yfed, ond ei bod yn credu ei fod "wedi troi'r gornel" yn y cyfnod cyn ei farwolaeth.
Gan gofnodi achos y farwolaeth fel gwrthdrawiad ffordd, dywedodd y crwner Kate Robertson fod tystiolaeth nad oedd Mr Jones yn sefyll i fyny ar adeg y digwyddiad, a'i fod dan ddylanwad alcohol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023