Y Blaid Werdd: Cefnogi Senedd Cymru pe bai'n cynnal refferendwm annibyniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Blaid Werdd yn dweud y byddai'n cefnogi Senedd Cymru pe bai'n penderfynu cynnal refferendwm annibyniaeth.
Wrth lansio ei maniffesto, mae'r blaid yn dweud y dylai Cymru fod yn rhydd i wneud ei phenderfyniad ei hun ynghylch a yw am fod yn rhan o'r DU.
Mae’r Blaid Werdd yng Nghymru eisoes wedi datgan ei chefnogaeth i Gymru annibynnol.
Dywedodd Sam Coates, ymgeisydd ar gyfer y Gwyrddion yng Nghymru, fod annibyniaeth yn “gam cyntaf pwysig wrth adeiladu’r Gymru rydyn ni eisiau ei gweld.”
Wrth siarad ar ôl lansio maniffesto'r Blaid Werdd, dywedodd Mr Coates:
“Mae yna lawer o bwerau nad oes gennym ni yma yng Nghymru ar hyn o bryd dros seilwaith, er enghraifft, a pholisi tramor.
"Mae agweddau llywodraeth Prydain tuag at yr argyfwng yn Gaza er enghraifft wedi cynhyrfu llawer o bobl.
"Mae gennym ni wir weledigaeth o Gymru yn rym er daioni yn y gymuned ryngwladol yn ogystal â chael pwerau llawn i wneud Cymru yn wlad fwy cymdeithasol ddemocrataidd lle mae’r llywodraeth yn adlewyrchu ein cymunedau ac eisiau edrych ar ôl ei gilydd.”
Mae'r blaid hefyd yn galw am i reolaeth dros Ystâd y Goron gael ei datganoli i Lywodraeth Cymru.
Codi trethi ar y cyfoethocaf
Mae’r Blaid Werdd wedi addo codi trethi ar y cyfoethocaf a’r rhai sy’n ennill mwy na £50,000 yn ei maniffesto, gan honni y bydd y cynlluniau’n cynhyrchu £70bn y flwyddyn i helpu i dalu am y GIG.
Maen nhw'n bwriadu cyflwyno treth cyfoeth o 1% ar asedau gwerth dros £10m, a 2% ar asedau gwerth mwy na £1bn.
Mae’r cynigion yn cynnwys codi cyfradd Yswiriant Gwladol o 2% i 8% ar gyflogau blynyddol dros £50,270 – sy’n cyfateb i £283.74 y flwyddyn ychwanegol mewn treth i rywun sy’n ennill £55,000.
Dywedodd cyd-arweinydd y blaid, Adrian Ramsay, mai’r Gwyrddion oedd yr “unig blaid sy’n onest” am y codiadau treth y maen nhw’n honni sydd eu hangen i drwsio’r argyfwng hinsawdd, tai a’r GIG.
Mae'r blaid wedi addo gwario £50bn y flwyddyn ar iechyd a gofal cymdeithasol erbyn 2030.
Addawodd atal pob prosiect tanwydd ffosil newydd yn y DU, ac addawodd fod yn fwy uchelgeisiol nag unrhyw blaid arall ar ynni adnewyddadwy.
Ar hyn o bryd nid yw gweithwyr yn talu unrhyw Yswiriant Gwladol nes eu bod yn ennill mwy na £12,570, 8% ar enillion rhwng £12,570 a £50,270, a 2% ar enillion dros £50,270 ar gyfer blwyddyn dreth 2023/24.
O dan gynlluniau’r Gwyrddion, byddai’r gyfradd o 8% yn cael ei thalu ar bob cyflog uwchlaw’r trothwy enillion uchaf.
Dywed y Gwyrddion y byddai’r dreth cyfoeth newydd yn effeithio ar lai nag 1% o gartrefi’r DU ac yn codi £15bn y flwyddyn erbyn diwedd y Senedd nesaf, gyda’r arian yn mynd i’r GIG.
Dywedodd Mr Ramsay fod y cynnydd yn "gymedrol" yn ôl safonau Ewropeaidd. Dywedodd y gallai nifer fach o filiwnyddion adael y DU o ganlyniad ond mynnodd y byddai'r cyfoethog iawn yn aros.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Mehefin