Trais difrifol yn lleihau: Costau byw yn ffactor posib

Heddlu yng nghanol ardal brysur gyda'r nosFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Y gred ydy bod yr argyfwng costau byw wedi cyfrannu at y gostyngiad gyda llai o bobl yn mynd allan i yfed

  • Cyhoeddwyd

Roedd gostyngiad o 14% yn yr achosion o drais difrifol yng Nghymru a Lloegr yn 2022 a 2023, yn ôl gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Y gred ydy bod yr argyfwng costau byw wedi cyfrannu at y gostyngiad gan fod llai o bobl yn gallu fforddio mynd allan i yfed alcohol.

Edrychodd ymchwilwyr ar ddata o dros 200 o adrannau brys, unedau mân anafiadau a chanolfannau galw heibio’r Gwasanaeth Iechyd yn 2022 a 2023.

Serch hynny mae’r data'n awgrymu bod yna gynnydd yn nifer yr achosion o droseddau o’r fath yn erbyn plant dan 10 oed, gyda rhybudd bod angen rhagor o waith ymchwil yn y maes.

'Cymru'n fwy diogel'

“Mae Cymru a Lloegr lawer yn fwy diogel,” meddai’r Athro Jonathan Shepherd o Grŵp Ymchwil Prifysgol Caerdydd ar Drais, a chyd-awdur yr adroddiad

“Mae trais difrifol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ein hadroddiad, wedi gostwng 55% ers 2010 a 66% ers 2001.”

Mae’r ymchwilwyr yn amcangyfrif bod 141,804 o bobl wedi mynd i Adrannau Achosion Brys yng Nghymru a Lloegr yn sgil anafiadau a oedd yn gysylltiedig â thrais yn 2023.

Mae hynny 22,919 - neu 14% - yn is na 2022.

Disgrifiad o’r llun,

“Mae trais difrifol yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 55% ers 2010 a 66% ers 2001," meddai’r Athro Jonathan Shepherd

Roedd cynnydd yn syth ar ôl i gyfyngiadau’r cyfnodau clo gael eu codi, ond mae’r gostyngiad diweddaraf yn adlewyrchu’r llwybr cyson ar ei lawr oedd wedi bodoli am dros 20 mlynedd.

“Mae’r argyfwng costau byw, mae hi’n debyg, wedi arwain at lai o bobl yn gallu fforddio i fynd allan,” meddai’r Athro Shepherd.

“A gyda mwy a mwy yn aros adref, a llai o bobl ifanc yn yfed alcohol, mae hi’n bosib byd hynny’n cyfrannu at lai a llai o ddigwyddiadau treisgar yn ein trefi a dinasoedd."

Angen rhagor o waith ymchwil

Yn ôl y gwaith ymchwil, roedd gostyngiad sylweddol - 25% - mewn trais sy’n effeithio ar bobl ifanc 18-30 oed yn 2023 o’i gymharu â 2022.

I bobl ifanc rhwng 11-17 oed roedd 3.7% o ostyngiad, a 15.8% o ostyngiad ymhlith pobl rhwng 31-50 oed.

Mewn cyferbyniad â hyn, ymhlith y grŵp oedran ieuengaf, rhwng 0 a 10 oed, roedd 52.8% o gynnydd yn nifer yr anafiadau difrifol a achosir gan drais.

Tra bod ymchwilwyr yn credu bod cynnydd wedi bod, mae ‘na rybudd am y data penodol yma oherwydd y niferoedd isel o blant sydd wedi profi’r math yma o drais.

“Mae angen trin y cynnydd o 53% yn nifer y plant 0-10 oed sy’n mynd i adrannau brys yn dilyn trais, yn lled ofalus,” meddai’r Athro Shepherd.

“Mae’r niferoedd yn isel, sef 1,279 yn 2023, ac mae’r rhain yn amrywio gan ddibynnu ar y flwyddyn, gan mai’r nifer amcangyfrifedig yn 2022 oedd 699.”

Ychwanegodd bod angen rhagor o waith ymchwil penodol dros y blynyddoedd nesaf, serch hynny, a bod angen ystyried llunio polisïau i fynd i’r afael â’r broblem bosib.

“Mae rhoi strategaethau ar waith yn debygol o fod yn un o brif achosion y cwymp sylweddol,” meddai.

“Mae cynlluniau atal penodol ar y cyd gan yr heddlu, awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Iechyd, yn ogystal â phlismona manwl gywir yn cyfrannu at wneud Cymru a Lloegr yn fwy diogel.”