Y cartref yn Sir Gâr sydd wedi denu staff o bedwar ban byd
- Cyhoeddwyd
Yng nghornel fach o Sir Gâr, mae cymuned unigryw o bobl sy’n tarddu o bob cwr o’r byd.
Mae Ymddiriedolaeth Cymunedau Elidyr, elusen arbenigol i bobl gydag anghenion ychwanegol, wedi troi at eu ffrindiau rhyngwladol er mwyn delio â heriau staffio.
“Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae hi wedi bod yn heriol iawn i ddenu pobl i’r diwydiant oherwydd mae cyflogau gwell wedi bod ar gael mewn archfarchnadoedd,” meddai Dai Sibbons, pennaeth yr ymddiriedolaeth.
Er yr heriau, mae’r cartref gofal yn Rhandirmwyn, Llanymddyfri, ymhlith nifer fach o elusennau yn y Deyrnas Unedig sydd â rota llawn.
Ddechrau 2022, roedd gan yr ymddiriedolaeth 40 o swyddi i’w llenwi. Wedi newid i’r rheolau fisa yn y DU, roedd modd edrych dramor ar gael pobl addas i weithio.
Wedi ymgyrch recriwtio ryngwladol, mae gan y cartref ddigon o staff i ofalu am y 50 person ifanc sy’n byw yno gydag anghenion arbennig ac anableddau amrywiol.
Y nod ydy annog cymdeithasu, bwyta a chwblhau tasgau ar y cyd er mwyn byw bywyd annibynnol gyda chefnogaeth.
“Ry’n ni wedi cadw mewn cysylltiad gyda’n cyn-wirfoddolwyr,” meddai Mr Sibbons.
“Mae gennym gysylltiad rhyngwladol. Unwaith gath y gwirfoddolwyr y cyfle i ddod nôl i Gymru a chael swydd lawn amser, roedd ciw ohonyn nhw oedd mo’yn dychwelyd.”
Erbyn hyn, mae’r tîm yn jig-so rhyngwladol, gydag aelodau o Golombia a Thwrci.
Mae Katie Williams, o Gymru, yn gweithio fel tiwtor gyda’r bobl ifanc yn yr ardd ac wedi bod yn rhan o’r ymdrech i groesawu pobl i weithio yn y cartref o dramor.
“Roedd lot o’r gwirfoddolwyr ‘di ffeindio fe’n eithaf rhwydd i ddweud ‘ie’ a dod 'nôl i weithio ‘ma fel aelod o staff.
“Mae e’n lle anhygoel i weithio. Dyw e ddim yn teimlo fel bo’ chi yn y gwaith.
“Fyddwn i’n ddigon cyfforddus yn dweud wrtho bobl i ddod i weithio ‘ma. Mae’n le gwych."
I’r 50 sy’n byw yn y gymuned arbennig hon, mae’r cyfleusterau yn fawr, gyda choleg ar gael, yn ogystal â fferm, campfa a gweithdai crefftio.
I Gamze Arici, sy’n wreiddiol o Dwrci, roedd y cynnig i fyw a gweithio yng Nghymru yn gyfle i wneud gwahaniaeth.
“Ro’n i yng nghanol gwneud PhD a gweithio mewn allforio ond nes i benderfynu gwneud rhywbeth gwahanol gyda fy mywyd.
“Ro’n i eisiau darganfod swydd ble roedd hi’n bosib i fod o fudd i bobl eraill. Ro’n i eisiau gwneud rhywbeth gwerthfawr oedd yn mynd i gynnig hapusrwydd i mi.”
I Natalia Martinez, o Golombia, y nod ydy gorffen ei chyfnod yn gwirfoddoli a gwneud cais i fod yn aelod o staff.
“Dwi really eisiau aros yma yng Nghymru am fwy o amser,” meddai.
Fe ddaeth Camilo Lozano i Gymru o dde America yn 2015 i wirfoddoli gyda’i wraig.
Er eu gobeithion i aros, roedd y rheolau ar y pryd yn golygu bod y pâr wedi methu cael swyddi.
Fe gysylltodd yr ymddiriedolaeth â’r ddau'r llynedd er mwyn cynnig swyddi iddyn nhw.
Maen nhw’n dweud taw’r apêl i ddychwelyd oedd agwedd gymdeithasol ac unigryw'r ymddiriedolaeth at ofal.
“Mae e’n le sy’n anodd ei ddychmygu,” meddai Camilo.
“Mae Ymddiriedolaeth Cymunedau Elidyr yn meddwl tu allan i’r bocs.”