Ymchwilio i adroddiad o ymosodiad yng Nghastell-nedd

heddlu
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 46 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi adroddiadau o ymosodiad difrifol.

Yn ôl Heddlu De Cymru credir i'r ymosodiad ddigwydd ynghanol tref Castell-nedd rhywbryd rhwng nos Wener ac oriau mân fore Sadwrn.

Dywed yr heddlu bod y dyn mewn "cyflwr difrifol ond sefydlog".

Mae nhw'n apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig