Rhod Gilbert: Sgan yn dangos fod ei ganser heb ledaenu
- Cyhoeddwyd
Mae Rhod Gilbert wedi derbyn ei sgan clir cyntaf ers derbyn triniaeth am ganser.
Fis Gorffennaf diwethaf fe gyhoeddodd y comedïwr 54 oed ei fod yn derbyn triniaeth am ganser cam pedwar yn ei ben a'i wddf.
Mae'n derbyn triniaeth yng Nghanolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd.
Roedd wedi bod yn noddwr i'r ganolfan am 10 mlynedd cyn ei ddiagnosis ei hun.
Yn siarad â'r Radio Times, dywedodd Gilbert mai darganfod fod ei ganser heb ledaenu oedd "diwrnod gorau fy mywyd".
Daw'r newyddion ar ôl cyhoeddiad ym mis Medi fod Gilbert yn paratoi i deithio gyda sioe newydd unwaith eto.
Bydd y sioe yn digwydd flwyddyn nesaf ar ôl iddo gwblhau ei driniaeth canser, gan godi arian ar gyfer Ganolfan Ganser Felindre.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2023