Williams yn cyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaeth y Byd

Mark WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Williams, 50, yw'r chwaraewr hynaf i gyrraedd pedwar olaf y gystadleuaeth ers i Ray Reardon wneud hynny yn 52 oed ym 1985

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro, Mark Williams wedi cyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn dilyn buddugoliaeth hynod ddramatig yn erbyn John Higgins.

Roedd Williams, 50, ar ei hôl hi o 5-1 yn gynnar yn y gêm, cyn brwydro'n ôl i'w gwneud hi'n 8-8 erbyn diwedd y sesiwn gyntaf nos Fawrth.

Wrth i'r chwarae ailddechrau brynhawn Mercher fe enillodd Williams bedair ffrâm o'r bron i'w gwneud hi'n 12-8 - gan ddod o fewn trwch blewyn i gipio'r fuddugoliaeth.

Ond fe drodd y gêm ar ei phen eto wrth i Higgins fynd ar rediad i ddod a'r ddau gyn-bencampwr byd yn gyfartal.

Methodd Higgins gyfle euraidd yn y ffrâm olaf, ac fe wnaeth Williams fanteisio ar hynny i sicrhau buddugoliaeth o 13-12 yn y Crucible.

Fe fydd Williams yn wynebu rhif un yn rhestr detholion y byd, Judd Trump yn y rownd nesaf, gyda'r sesiwn gyntaf i ddechrau am 19:00 nos Iau.

Pynciau cysylltiedig