Mark Williams angen ocsigen yn ystod gêm o snwcer

Mae Mark Williams wedi ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd deirgwaith - yn 2000, 2003 a 2018
- Cyhoeddwyd
Roedd angen i gyn-bencampwr snwcer y byd, Mark Williams dderbyn ocsigen yn ystod egwyl mewn gêm dros y penwythnos.
Mae'r Cymro 49 oed yn cystadlu yn y Tianren Cup Lhasa Winter Plateau Snooker Challenge yn Nhibet ar hyn o bryd.
Fe wnaeth Williams rannu llun o'i hun ar y cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio tiwbiau anadlu oedd wedi eu cysylltu â thanc ocsigen yn ystod y gêm.
Ond fe ddywedodd yn y neges ei fod yn iawn ac "nad oedd yn teimlo'n sâl".
Mae Lhasa 11,998 o droedfeddi yn uwch na lefel y môr, ac felly mae'r uchder sylweddol yn golygu bod llai o ocsigen yn yr aer.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Awst 2021
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2019