Galw ar gorau i weithredu yn y gymuned er mwyn 'uno cenedlaethau'

Dau blentyn yn arwain aelodau o gôr meibion
  • Cyhoeddwyd

O wella iechyd i gynyddu hapusrwydd, mae manteision canu a bod yn rhan o gôr wedi eu crybwyll ers tro.

Ond yn ôl Cymdeithas Corau Meibion Cymru, wrth i oed cyfartalog aelodau gynyddu mae angen cynnal mwy o weithgareddau i uno'r hen a'r ifanc.

Yn ogystal, mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn nodi pwysigrwydd diwylliannol corau ac yn galw am fil statudol i warchod y celfyddydau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn cyhoeddi eu blaenoriaethau ar gyfer diwylliant fis nesa.

Mae gan Gymdeithas Corau Meibion Cymru dros 100 o gorau sy'n aelodau gan gynnwys chwe chôr tramor.

Mae nifer o gorau eisoes yn cynnal gweithdai gyda phlant a phobl ifanc yn eu cymunedau .

Ond mae Alun Thomas, un o swyddogion y gymdeithas, yn dweud bod angen adeiladu ar hyn.

"Ma' cymaint o rwygo rhwng y cenedlaethau yn digwydd ar hyn o bryd ac mae'n bwysig ein bod ni yn uno'r cenedlaethau," meddai.

Dyn gyda barf yn gwisgo crys coch a siwmper las
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Thomas wrth ei fodd yn berfformio mewn ysgolion

Mae Mr Thomas yn aelod o Gôr Meibion Cwm Aber ac maen nhw wedi ymweld ag Ysgol y Deri ym Mhenarth i ganu gyda disgyblion yno.

Mae'r côr wedi ymweld â'r ysgol anghenion arbennig sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf.

"Ry' ni 'di cael ymateb gan athrawon trwy e-byst yn dweud fod y plant yn sôn am y perfformiadau am amser hir ar ôl yr ymweliad," ychwanegodd.

"Mae yn helpu i roi hyder a ma' hynny yn ardderchog."

Dyn yn gwisgo siwmper ddu
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr athro Marc Skone, mae'r plant yn ymateb yn arbennig i berfformiadau'r côr

Un sy'n gweld effaith y côr ar y plant yw'r athro Marc Skone.

"Maen nhw weithiau yn dod mewn gyda, efallai, gormod o egni ac weithiau ry' ni yn gorfod ffeindio ffordd i gael nhw i eistedd a chanolbwyntio," meddai.

"Ni ddim just yn dysgu'r cwricwlwm fan hyn, ry' ni'n dysgu ffordd o fyw hefyd.

"Ma' cerddoriaeth yn ffordd arbennig o ddysgu nhw i ganolbwyntio, eistedd a gwrando, a be ni'n ceisio ei wneud yw cynnwys hynny yn y dysgu hefyd."

Côr yn sefyll yn y cefndir a phlant ysgol blwyddyn pump yn eistedd ar y llawr yn gwrando ar arweinydd y côr yn esbonio sut maen nhw'n paratoi i ganu
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant Ysgol Gynradd Gorslas, wrth eu boddau'n cael canu gyda Chôr Meibion Mynydd Mawr

Yng Nghwm Gwendraeth mae Côr Meibion Mynydd Mawr wedi ffurfio partneriaeth gydag un o'r ysgolion lleol, Ysgol Gynradd Gorslas, Llanelli.

Mae'r cysylltiad yn rhan o ymdrech i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a helpu dod â chymunedau o bob oed at ei gilydd er mwyn cael nhw i ddeall ei gilydd yn well.

Mae arweinydd y côr, Davinia Davies yn gefnogol iawn o'r fenter.

"Gall y plant ddysgu am ganu'r piano, arwain a cherddoriaeth ac mae'r côr yn cael y profiad o gyfathrebu gyda'r plant. Mae'r ddwy ochr yn elwa," meddai.

"Pa mor aml mae'r ddwy genhedlaeth yn cwrdd? Ma' rhywbeth sbesial mewn cerddoriaeth sy'n uno pob oed."

Dyn gyda barf yn gwisgo siacted dywyll yn sefyll mewn caffi
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r celfyddydau wedi dioddef yn sgil toriadau ariannol, medd Jacob Ellis

Yn ôl Jacob Ellis o swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, mae corau a'r celfyddydau yn rhan bwysig o hunaniaeth Cymru ac mae angen eu gwarchod.

"Mae corau'n gallu helpu ni o ran ein hiechyd meddwl a dod ag oedrannau ynghyd yn ein cymunedau.

"Hefyd yn economaidd ni'n gwybod bod nifer o bobl yn mwynhau dod i Gymru i fwynhau ein hadloniant a'n celfyddydau," meddai.

Ond mae Mr Ellis yn nodi bod toriadau ariannol yn cael effaith andwyol ar y sefyllfa.

"Mae'r toriadau dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos bod rhaid i ni warchod diwylliant yn fwy yn ein cymdeithas ni.

"'Da ni'n galw ar y llywodraeth i ddod â bil statudol sy'n gwneud yn siŵr bod diwylliant yn rhywbeth sydd yna ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol," ychwanegodd.

'Agwedd hanfodol' o fywyd Cymru

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cynnydd o 8.5% wedi bod yng nghyllid refeniw'r sector diwylliant a chelfyddydau eleni, yn ogystal â chynnydd o £18.4m mewn cyllid cyfalaf.

"Mae gan bob person yng Nghymru'r hawl i gymryd rhan, creu, mwynhau a gwerthfawrogi ein gweithgarwch diwylliannol.

"Mae'n agwedd hanfodol ar ein bywyd cenedlaethol ac yn rhan allweddol o'n hunaniaeth a'n llesiant unigol a chenedlaethol," meddai llefarydd.

Ychwanegodd y llywodraeth y bydd eu blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yn cael eu cyhoeddi fis nesa.