Dyfodol corau mewn perygl wrth 'erydu' arian i'r celfyddydau

Côr Meibion Dyfnant Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Rogers wedi bod yn arweinydd y côr ers 2007

  • Cyhoeddwyd

Mae'r arian sydd ar gael i'r celfyddydau yng Nghymru wedi'i "erydu", sy'n cael effaith uniongyrchol ar ddyfodol corau, yn ôl un arweinydd.

Cafodd Côr Meibion Dyfnant ei sefydlu ym 1895 gan grŵp o lowyr, gweithwyr dur a chwarelwyr o aelodau Capel Ebenezer, Abertawe.

Am 128 o flynyddoedd, mae'r côr wedi canu yn ddi-dor, ond yn ôl un aelod mae denu "gwaed ifanc yn angenrheidiol" os am barhau i ganu yn y dyfodol.

Daw wrth i Bwyllgor Diwylliant y Senedd feirniadu Llywodraeth Cymru am "ddegawd o doriadau" i'r sector.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cydnabod cyfraniad pwysig y celfyddydau a chwaraeon i gymdeithas, ac y byddan nhw'n ystyried cynnwys adroddiad y pwyllgor.

'Anodd iawn i gynnal'

Fe ddaeth Jonathan Rogers, o Abertawe, yn arweinydd Côr Meibion Dyfnant yn 2007.

Ers hynny mae wedi arwain rhai o berfformiadau mwyaf cofiadwy'r côr, gan gynnwys yn y Royal Albert Hall a Chapel Coleg y Brenin yng Nghaergrawnt.

Ffynhonnell y llun, Beth Landmesser

Mae o'r farn bod corau yn wynebu problem "aml-haenog sydd yn gysylltiedig gyda'r byd celfyddydau".

"Mae cyllid i'r celfyddydau a cherddoriaeth wedi cael ei erydu. Ry'ch chi'n gweld e mewn ysgolion hyd yn oed.

"Ry' ni'n cystadlu gyda cymaint o agweddau eraill ac mae niferoedd da wedyn yn anodd iawn i gynnal."

Dywedodd bod y "traddodiad Cymreig" o fod yn rhan o gôr yn "wahanol iawn" erbyn heddiw, a'i fod yn "trio addasu a datblygu gyda'r oes sydd ohoni".

"I ni, mae cael gwaed ifanc yn meddwl denu dynion yn eu 40au neu eu 50au sydd wedi gorffen 'neud chwaraeon neu mae mwy o amser gyda nhw i wneud rhywbeth gwahanol."

"Ma'r traddodiad yn wahanol iawn i beth oedd fel blynyddoedd yn ôl felly ry' ni'n trio addasu a datblygu gyda'r oes sydd ohoni."

Ychwanegodd bod cyfeillgarwch y côr a'u parodrwydd i addasu wedi helpu cynnal aelodau craidd.

"Wrth gwrs ry'n ni wedi gweld gostyngiad yn ein niferoedd, yn enwedig ers Covid ond mae'r niferoedd craidd yna, dal 'na.

"Ni'n trio 'neud pethau yn wahanol nawr p'un ai bod hwnna yn meddwl llai o gyngherddau, ymarferion neu droi at wneud pethau ar-lein."

Beth yw sefyllfa'r celfyddydau yng Nghymru?

Mae toriadau i gelfyddydau yng Nghymru wedi denu beirniadaeth dros flynyddoedd diweddar, gyda sawl un yn mynegi pryder am yr effaith ar ddyfodol y sector.

Y llynedd fe gollodd cwmni Opera Cenedlaethol Cymru 10% o'i gyllid gan Gyngor y Celfyddydau, ac fe gollodd National Theatre Wales y cyllid craidd yn gyfan gwbl.

Rhybuddiodd prif weithredwr Cyngor y Celfyddydau y gallai sector proffesiynol y celfyddydau "ddiflannu" o fewn degawd os na chaiff ei ariannu'n iawn.

Yr wythnos ddiwethaf, datgelodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd bod Cymru ymhlith y gwledydd sy'n gwario lleiaf ar wasanaethau diwylliant a chwaraeon drwy Ewrop.

Fe wnaeth y pwyllgor feirniadu Llywodraeth Cymru am "degawd o doriadau" i'r celfyddydau a galw am fwy o arian i'r sector.

Yn ôl ymchwil diweddar ar ran undeb celfyddydol Equity, mae gwariant ar y celfyddydau yng Nghymru wedi gostwng 30% mewn termau real ers 2017.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y celfyddydau a chwaraeon yn gwneud cyfraniad pwysig i gymdeithas, ond bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd o ran ariannu yn sgil y pwysau ar gyllidebau.

Ond ychwanegodd llefarydd ddydd Iau bod "setliad ariannol diweddaraf Llywodraeth y DU yn rhoi cyfle i ni roi mwy o arian i'r sectorau yma yn ein cyllideb ddrafft".

'Angen gwaed ifanc'

Mae Huw Morris, o Aberdâr, yn aelod o Gôr Meibion Dyfnant ers pum mlynedd.

Gyda niferoedd y côr wedi gostwng ers y pandemig, dywedodd wrth Cymru Fyw bod recriwtio yn "broblem" ac yn "sialens fawr".

"Yn y gorffennol, roedd corau yn recriwtio o gapeli ond nawr does dim gobaith achos dyw'r traddodiad o ganu emynau ddim yn bodoli siwd gymaint yng Nghymru," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr arweinydd, mae'r côr yn "trio addasu a datblygu gyda'r oes sydd ohoni"

Pan ddechreuodd yn y côr, dywedodd bod y niferoedd yn llewyrchus ond erbyn heddiw mae denu aelodau ifanc yn "sialens fawr".

"Roedd tua 90 yn ymarfer pob wythnos, ond wrth gwrs da'th Covid a gyda Covid, nath y niferoedd ddisgyn i tua 30.

"Ry'n ni 'di llwyddo dyblu ein niferoedd cyson nôl lan i tua 50 ond edrych i'r dyfodol ac oedran pobl, wel, ma' rhaid i ni gael gwaed ifanc.

"Ma' un neu ddou o aelodau gyda ni sydd yn eu 30au ond mae'r mwyafrif yn eu 70au," meddai.

"Wrth i'r aelodau fynd yn hŷn ac yn methu dod i'r ymarferion, mae'r niferoedd yn mynd i ostwng."

Ychwanegodd bod dyfodol y côr yn bryder mawr, er sawl ymdrech i ddenu aelodau newydd.