40% o feddygon preswyl Cymru yn wynebu diweithdra o fis Awst - arolwg

- Cyhoeddwyd
Mae nifer o feddygon preswyl yn wynebu diweithdra gan nad oes digon o leoedd hyfforddi wedi'u hariannu yng Nghymru, mae undeb wedi rhybuddio.
Gall meddygon preswyl – neu feddygon iau gynt – ddilyn gyrfa mewn maes meddygol penodol ar ôl dwy flynedd o hyfforddiant sylfaenol.
Ond mae arolwg gan BMA Cymru Wales yn awgrymu bod cymaint â 40% yn poeni y byddan nhw'n ddi-waith o fis Awst eleni.
Dywedodd rhai wrth yr undeb eu bod wedi gwneud cais am 30 o swyddi heb sicrhau cynnig.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda llywodraethau ledled y DU i chwilio am atebion.
Beth sydd yn yr arolwg?
Dywedodd 82% o'r ymatebwyr eu bod naill ai'n poeni am fod yn ddi-waith neu wedi poeni cyn sicrhau swydd.
Mae 63% o'r rhai heb le mewn hyfforddiant bellach yn bwriadu gwneud gwaith locwm.
Mae BMA Cymru yn galw'r gwaith hwn yn "ddrud, ansefydlog ac yn mynd yn fwy prin", yn enwedig mewn meddygfeydd sydd heb ddigon o gyllid i dalu am locymau.
Mae'r sefyllfa'n peri pryder, gyda 46% o feddygon yn ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl, a 30% yn chwilio am swyddi dramor.
Dywedodd rhai eu bod wedi gwneud hyd at 30 cais heb gael cynnig un swydd.

Mae'r sefyllfa'n anniogel i gleifion ac mae angen gweithredu brys gan Lywodraeth Cymru, yn ôl Dr Oba Babs-Osibodu
Mae BMA Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio ag ehangu llefydd hyfforddi, er gwaethaf cynnydd yn nifer y myfyrwyr meddygol, gan gynnwys graddedigion o'r ysgol feddygol newydd ym Mangor.
Dywedodd Dr Oba Babs-Osibodu, cadeirydd Pwyllgor Meddygon Preswyl BMA Cymru: "Ar adeg pan mae angen mwy o feddygon ar Gymru, mae cyfleoedd cyfyngedig i feddygon ddatblygu eu gyrfaoedd yn y wlad lle cawson nhw eu hyfforddi.
"Rydym wedi rhybuddio'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am effaith bosib pe na bai'r llefydd yn cael eu hehangu.
"Mae meddygon yn gorfod chwilio am waith locwm achlysurol, gadael Cymru neu hyd yn oed adael y proffesiwn.
"Mae'r sefyllfa'n anniogel i gleifion ac mae angen camau brys gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys deddfwriaeth ar lefelau staffio diogel a chynnydd yn y llefydd hyfforddi."
'Mewn dyled ac heb swydd'
Dywedodd un meddyg yn ddienw: "Roeddwn yn ddi-waith am sawl mis ac er fy mod yn teithio ledled y DU am sifftiau locwm, doedd dim digon i dalu'r biliau. Mae sifftiau locwm yn brin."
Ychwanegodd un arall: "Rwyf wedi cronni degau o filoedd o bunnoedd o ddyled i astudio meddygaeth, ond nawr yn ei chael hi'n anodd cael swydd.
"Rwyf wedi gwneud cais am hyfforddiant meddygaeth frys ddwywaith – maes sydd angen mwy o hyfforddeion – ond heb weld cynnydd yn y swyddi."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn buddsoddi £294m mewn hyfforddiant proffesiynol iechyd.
"Ers 2019, mae cynnydd o 342 lle hyfforddi arbenigol a 222 lle sylfaenol.
"Rydym yn parhau i gydweithio â llywodraethau'r DU i ddod o hyd i atebion."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd5 Mehefin